Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ryw wr ddyfod i mewn a gofyn am werth corono un ohonynt. Yntau yn atteb ni feddai werth ceiniog ohono. Er y gall llawer ymddangos yn grand mewn proffes, eito yn wyneb profedigaeth gofynwch,—Pa le y mae eu ffydd hwynt? Rhoddwyd bloedd—Blant bach, llefwch am i'r wagen ddyfod adran—y mae yn dromlwythog; sef gweinidion y Gair.

Bellach, terfynaf, a hyn oddiwrth un ac y sydd yn chwenychu dymuno llwyddiant fforddolion Seion.

ANN THOMAS, Dolwar.

—————————

Wedi ychydig emynnau o waith J. Hughes daw yr emyn hwn.

HYMN AR EIRIOLAETH CRIST.

BERERIN llesg gan rym y 'stormydd,
Cwyd dy olwg, gwel yn awr
Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol
Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr;
Gwregys auraidd o ffyddlondeb,
Wrth ei odrau clychau'n llawn
O swn maddeuant i bechadur,
Ar gyfri yr anfeidrol iawn.

Anne Thomas, Dolwar Fechan, plwyf

Llanmihanel yn Gwnfa a'i cant.

Ar ol emyn tri phennill, troir dalen arall, a cheir yr emynnau hyn.

HYMN 6.

MAE swn y clychau'n chwarau
Wrth odrau Iesu mawr,
Ac arogl y pomgranadau
I'w clywed ar y llawr;