Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dal i fynu yngwyneb gwinidogaeth fel un yn gwarchad gartref yn dda, ac yn aros yn y cymundeb. Ond er fy holl scil fe dorodd yr Arglwydd o'i ddaioni yn y geiriau hyn,—"Os wyf fi Dad, pa le y mae fy anrhydedd? Os wyf fi Feistr, pa le y mae fy ofn?" Diolch i Dduw byth am buls y nef i fynd a'r afiechyd i gerdded. Yr oedd fy ystymog mor wan fel nad allwn ymborthi ar drugaredd rad, yn yr olwg ar fy llwybr, ac wedi ymadael â Duw, ffynnon pob cysuron sylweddol, a chloddio i mi fy hun bydewau toredig. Y gair yma a'm cododd ronyn ar fy nhraed o'r newydd,—"Yr Arglwydd yw fy Mugail, ni bydd eisiau arnaf." Y fi yn myned ar gyrwydr, yndef yn Fugail; y fi yn analluog i ddychwelyd, yntef yn Arglwydd Hollalluog. O Graig ein hiechydwrieth, hollol ymddibenol arno ei hun mewn perthynas i achub pechadur. Garedig frawd, myfi a ddymunwn gael bod byth tan y driniaeth, bydded mor chwerw ag y bo.

Gair arall a fuo fendith neillduol imi yn ddiweddar wrth geisio dyweud wrth yr Arglwydd am yr amrywiol bethau oedd yn fy ngalw ar ei hol. Dyma'r gair,—"Trywch eich wyneb attaf fi, holl gyrau'r ddaear, fel y'ch achubir, canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall." Fel pe fae Duw yn dyweud,—"Mi a wn am bob galwad sydd arnat, a'i bod yn amrywiol, ond yr wyf inau yn galw. Nid yw byd ond byd, na chnawd ond cnawd, na diafol ond diafol.—"Myfi sydd Dduw, ac nid neb arall."

Y mae rhwymau arnaf i fod yn ddiolchgar am y Gair yn ei awdurdod anorchfygol. Mi a ddymunwn o'm calon roi'r clod i gyd i Dduw'r