Byddai yn werthfawr iawn genyf gael fy ngwaredu rhag anturio cynnyg mwyach i ddeddf sanctaidd Duw ond yr hyn a'i boddlonodd; nid am na dderbyn ddim arall, ond o barch iddi. Nid adnabum i o'r blaen gymaint o barch i, ac o gariad at y ddeddf; nid er ei bod yn melldithio, ond am ei bod yn melldithio, ym mhob man allan o Gyfryngwr; canys felly y mae yn dangos ei harddwch a'i pherffeithrwydd.
Garedig frawd, bu dda genyf ddarllen y llythyr a anfonasoch at fy mrawd, ac hefyd eich llythyr at S. G. a'ch anogaethau i ddarllen a chwilio yr Ysgrythyrau; yr wyf yn meddwl am ba bethau bynnag a fyddo genym heblaw y gair, a'r hyn a fyddo yn unol âg ef, ein bod yn gwario arian am yr hyn nid yw fara a'n llafur am yr hyn nid yw yn digoni," oblegid nid yw ystumog yr anian newydd yn dygymod a dim arall; ac y mae pob awelon yn dwyn afiechyd, ond awelon y cysegr. Bu y geiriau canlynol o werth a chysur mawr i fy enaid yn ddiweddar, sef—"Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dy arfau; tariannau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn." Nid wyf fi ynnof fy hun ond dinerth a di-arfogaeth i wynebu gelynion; ond os caf fraint o droi i'r Tŵr, caf yno arfogaeth a nerth i redeg trwy'r fyddin. Bu y geiriau hyn hefyd o gysur mawr i mi—"Rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo Ef;" a hefyd y geiriau hyn—"Gardd gauedig yw fy chwaer a'm dyweddi." Y mae rhwymau mawr arnaf i ddwedyd yn dda am Dduw, ac i fod yn ddiolchgar iddo, am raddau o gymdeithas y dirgelwch. Ond dyma fy ngofid—methu aros—parhaus ymadael.