Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y Drws Agored.

"Crynodeb neu gasgliad o amryw sylwiadau ar bethau ysprydol yw ail ysgrifyfr John Hughes. Dechreuodd ei ysgrifennu yn Llanidloes, Hydref 20, 1804. Copiodd iddo hanes cymdeithasau y ddwy flynedd cynt, yn Nolgellau, Llanidloes, Dinbych, a'r Bala. Wedi Mehefin 14, 1804, daw sylwadau ar weddi Crist yn yr ardd ac ar y groes. Yna daw'r deg emyn sy'n dilyn.
Ymbriododd Ann Thomas a Thomas Grifiths, Hydref 10, 1804.

O'M blaen mi wela ddrws agored

HYMNAU O WAITH A. G., DOLWAR.

HYMN 1.

1 O'M blaen mi wela ddrws agored,
A modd i hollol gario'r ma's,
Yn grym y rhoddion a dderbyniodd
Yr hwn gymerodd agwedd gwas;
Mae'r tywysogaethau wedi ei hyspeilio,
A'r awdurdodau, ganddo ynghyd,
A'r carcharwr yn y carchar
Trwy rinwedd ei ddyoefaint drud.

2. Fy enaid trist, wrth gofio'r frwydur,
Yn llamu o lawenydd sydd,
Gweld y ddeddf yn anrhydeddus,
A'i throseddwyr mawr yn rhydd ;
Rhoi awdwr bywyd i farwolaeth,
A chladdu'r adgyfodiad mawr,
Dwyn i mewn dragywyddol heddwch,
Rhwng nef y nef a daear lawr.

3. Pan esgynodd 'r hwn ddisgynodd,
Gwedi gorphen yma'r gwaith,
Y pyrth oedd yn derchafu ei penau,
Dan ryfeddu[1] yn ei hiaith ;

  1. Cyfnewidiwyd yn ddiweddarach, gan yr un llaw, yn orfoleddu.