Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AM fy mod i mor llygredig

HYMN 9.

1 AM fy mod i mor llygredig,
Ac ymadel ynddw i'n llawn,
Mae bod yn dy fynydd santaidd
Imi'n fraint oruchel iawn ;
Lle mae'r llenni yn cael ei rhwygo,
Mae difa'r gorchudd yno o hyd,
A rhagoroldeb dy ogoniant
Ar ddarfodedig bethau'r byd.

2. O am bara i uchel yfed
Offrydiau'r iechydwriaeth fawr,
Nes fy nghwbwl ddisychedu
Am ddarfodedig bethau'r llawr ;
Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd
Bod, pan ddel, yn efro iawn,
I agoryd iddo'n ebrwydd
A mwynhau ei ddelw'n llawn.

O NA bai fy mhen y ddyfroedd

HYMN 10.

1. O NA bai fy mhen y ddyfroedd,
Fel yr wylwn yn ddi lai,
Am fod Sion, lu bannerog,
Y'ngres y dydd yn llwfrhau;
O datguddia 'r colofnau
A wnaed i'w chynal yn y nos,
Addewidion diamodol Duw
Ar gyfri angau'r groes.

2. Cofia, Arglwydd, dy ddyweddi,
Llama ati fel yr hydd,
Ac na'd ir Ameleciaid
Arni'n hollol gario'r dydd;
Mae'r llwynogod ynddi'n rhodio
I ddifwyno'r egin grawn,