Tudalen:Gwaith Ann Griffiths CyK.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

6. Yn lle cario corph o lygredd,
Cyd-dreiddio a'r côr yn danllyd fry,
I ddiderfyn rhyfeddodau
Iechydwriaeth Calfari;
Byw i weld yr Anweledig,
Fu farw ac sy'n awr yn fyw,
Tragywyddol anwahanol undeb,
A chymundeb a fy Nuw.

7. Yno caf dderchafu'r Enw
A osododd Duw 'n Iawn,
Heb ddychymyg, llen, na gorchudd,
A'm henaid ar ei ddelw'n llawn ;
Ynghymdeithas y dirgelwch,
Datguddiedig yn ei glwy,
Cusanu'r Mab i dragywyddoldeb,
Heb im gefnu arno mwy.

OS rhaid wynebu'r afon donog,

HYMN.

1. OS rhaid wynebu'r afon donog,
Mae un i dori grym y dwr,
Iesu, f'archoffeiriad ffyddlon,
A chanddo sicir afael siwr;
Yn ei gôl caf waeddi Congcwest
Ar angeu, uffern, byd, a bedd,
Tragywyddol fod heb fodd i bechu,
'N ogoneddus yn ei wedd,

2. Melys gofio y cyfammod
Draw a wnaed gan Dri yn Un,
Tragywyddol syllu ar y person
A gymerodd natur dyn;
Wrth gyflawni'r amodau
Trist iawn hyd angeu ei enaid oedd,
Dyma gân y saith ugeinmil
Tu draw i'r llen a llawen floedd.