Tudalen:Gwaith Ceiriog.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR DDOL PENDEFIG

Alaw,—Y Gwenith Gwyn

Ar ddol pendefig, heidden wen
Ymgrymai' phen yn hawddgar;
'R oedd cnwd o honynt ar y cae,
Fel tonnau hyd y ddaear;
A cher y fan, ar fin rhyw lyn,
'R oedd gwenith gwyn yn gwenu;
Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau,
Y cnydau prydferth hynny.

Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith,
Ei fendith ar y maesydd;
A dyn a godai gyda'r wawr
I dorri lawr y cynnydd.
Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth,
A rhuo wnaeth i'r nefoedd,—
"Fod un yn mynd er bendith dyn,
A'r llall i ddamnio miloedd."

A LAESWN NI DDWYLAW?

Alaw,—Llwyn Onn

A laeswn ni ddwylaw yng nganol y rhyfel,
Tra'r gelyn yn erlid, a fynnwn ni hedd?
Tra llidiart y fynwent a'i sgrech ar ei hechel
Wrth dderbyn y meddwon i stafell y bedd?
Mae'r blodau sy'n tyfu ar feddrod y meddwyn
Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw;
A'r gwynt wrth fynd heibio, fel taran; yn gofyn
"Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw?"