Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cardod,—y brawd du a'r brawd llwyd,—yn dirywio rhagor bured ac anwyled fuasent gynt. Yr oedd adfywiad dysg, fel awel gwanwyn, yn y byd. Yr oedd meibion llafur yn dod yn rhydd o rwymau oesol. Yr oedd bryd pob dyn ar fywyd y byd yr oedd yn byw ynddo. Trodd addoli Mair yn addoli merch dlos, trodd nerth crefyddolder yn ymhyfrydiad yn nhlysni anian; y goedwig yw teml Dafydd ab Gwilym, a'r ehedydd ei offeiriad.

O gyfeiriadau ato mewn beirdd eraill, y mae llenorion wedi dadblygu hanes rhamantus iddo,—ei eni yn yr eira, ei fedyddio ar arch Ardudfyl ei fam, ei grwydr oddiwrth lysfam at noddwr tan ymddisgleiriodd ei awen yn amlwg i bawb. Gwelir ef yn ei gywyddau,—yn wr teimladwy yn hytrach na dewr, yn dioddef ac eto yn llawn llawenydd, yn ymhyfrydu yng ngwynder alarch neu felynder banadl neu gân bronfraith neu dlysni hoew fedwen haf, yn ymgolli yng nghyfoeth prydferthwch coedwig ac adar, yn ddianwadal ei barch i Ifor a'i gariad at Forfudd.

Y mae i Ddafydd ab Gwilym le pwysig yn hanes meddwl Cymru. Dengys ambell gyfeiriad at Sais beth oedd natur gwladgarwch Cymru rhwng y ddwy ymdrech galetaf am anibyniaeth. Ond y peth mwyaf dyddorol yw y berthynas rhwng y bardd a chrefydd ei oes. Yr oedd o ysbryd crefyddol, iaith addoliad yw iaith ei ddesgrifiadau o aderyn a llwyn. Saif fel cynrychiolydd naturioldeb a chydymdeimlad yn erbyn gorthrwm rhagrithiol yr eglwys. Ofnai Dduw, addolai Fair, ond ni fynnai gredu fod cariad yn bechod a fod tlysni yn beth i ymswyno rhagddo. Darlunia seremonïau addoli, darlunia bererindod i Dyddewi, ond o hanner difri hanner chwarae. Mae