Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DIEITHR LAW

MAE Llyfr Amser mwy,—lle bu yr Oesoedd,
A llaw grynedig, wrth brysuro ymlaen,
Ar faith olynol drefn, ingol frys,
Yn ysgrifennu arfaeth gyngor Duw
A chymlith lythyrennau o ddigofaint,
Barn, a thrugaredd, weithiau mewn afonydd
O ddagrau ac o bell-lifeiriol waed,
Ac unwaith yn eì iawnol waed ei Hun,
Pan ffurfiwyd dyfnion lythyrennau hedd
Ac iachawdwriaeth i genhedloedd byd
O'i ruddwawr glwyfau ar y barnol bren,—
Mae Llyfr Amser wedi cau,
A seliau Duwdod arno.
A dieithr law,
Llaw ddiwaed Tragwyddoldeb, sy'n ymestyn
Ymlaen dan ruddwawr gauad-lenni'r Farn,
I'w gipio ymaith, a'i orchuddio mwy
Ym mhlygion mewnaf angof.

BLODEUYN ADGOF

AWELON Amser! Chwythwch ar y blodyn,
Teg flodyn adgof, sydd mor loew ei ffriw.
Rhy barod ŷch i chwythu; mil rhy sydyn
Y gwywch bob blodeuyn teg eî liw.
Diolchwn i ro hwn, a'i wywo,
Fe wisgai siriolach gwedd ped elai'r adgof heibio.