Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DEDWYDD DDYN

DEDWYDD ddyn
Sy'n sefyll ar y bryniau, rhwng y byd
A'r anherfynol, ac yn ceisio dal
Y seiniau sydd yn tramwy rhyngddynt hwy!
Mae gan y bryniau lais, a'r gwyntoedd air
O ddwyfol genadwri. Dedwydd ddyn
A rodiodd trwy foreuddydd bywyd gan
Glustfeinio a dysgu y dragwyddol iaith!
A byth na foed i neb, y sydd a'u henwau
Yn prysur godi trwy feddyliau'r byd
I'r disglaer oruchelder lle mae'r cwbl
Yn fawrwych a sefydlog fel y ser,
Ddirmygu 'u bore haddef ger y bryniau,
A'r ffawd a bennodd eu preswylfod hwynt
Lle nad oedd ond gweithredoedd pennaf lor
Yn chwyddo ac yn chwyddo ar y drych,
Y gorwel amgylch ; rhyfeddodau Duw
Fel anfeidroldeb, ac yn llanw
Holl aruthr fyfyrdodau'r nef, a'r enaid
A feiddiai godi ei lygad ymagorawl
Ar Dduwdod.
Pwy na wel
Fynyddoedd gwlad eu tadau, a phorfeydd
Eu mawrwych chwyddol arlechweddau hwynt,
A’u broydd breision teg, y nef ddaearol
Y buasai seren ffydd am lawer oes
Yn sefyll uwch ei phen, ac eto weithiau
Yn codi ac yn symud fel pe caed
Gogoniant mwy i ddyfod,—pwy na wel
Ysblenydd amlinellau 'i golygfeydd,