YMGRYMODD HYD Y DDAEAR
YMGRYMODD hyd y ddaear. Taflodd dros
Oleuni 'i Dduwdod fantell dew o bridd;
A gwnaeth ei breswyl gyda dyn. A ffwrdd
Fe elai aml fore gwlawog oer
I'r trefydd a'r dinasoedd gaed o gylch,
A chodai lef o rybudd uwch eu pen,—
"Ffowch rhag y llid, y farn a fydd, a fydd."
Dyn yma welid, eto teimlai pawb
Fod Duw yn nes nag arfer. Aml dro,
Pan ddadfotymai bys rhyw uchel wyrth
Ei fantell ddaiar, fflamiai'r Duw i maes
Fel hanfod myrdd o heuliau, nes bai'r dorf
Yn plygu'n ol bob ochr fel pe baent
Yn teimlo fod y fangre yn rhy gul
I Dduwdod, yn rhy gyfyng iddo Ef,
Sy'n taenu nennau fil fel llen i'w draed,
Yn crugio bydoedd o aruthraf faint
Hyd nef y nef yn orsedd iddo 'i hun;
Yr hwn sy'n camu o bellderau'r nef
Hyd eithaf y greadigaeth, ac yn troi
Y nefoedd fel blodeuyn am ei fys,
A'r bydoedd oll ar linyn wrth ei fainc;
Yr hwn a blannodd, ar ymylau'r nef
Lechweddog, y fforestydd mawrion ser,
Ac ar ryw dawel hwyr a'u rhoes ar dan
Yn oddaith oesol, i oleuo ffordd
Ei engyl weinyddolion ar eu taith
Tua dyffryn amser a'i ddyfnderoedd pell.
Fe blygai'r dorf yn ol am ennyd byr,
Ond tremient eilwaith. Nid oedd yno neb
Ond proffwyd Nazareth.