Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno hefyd, ac amryw na fuasai yno oni bai hynny, wedi aros i'r oedfa. Cydbregethai Warnott Edwards a minnau. Aethom i letya i Plasparciau ein dau, a daeth Mr. Jones, Ffynnon Bedr, a James Thomas (Tresimwn), yr hwn oedd newydd ddechreu pregethu, yno gyda ni. Dyma fy nghyfarfyddiad cyntaf a'r cyfaill hoff James Thomas. Yr oedd efe wedi dyfod i Ffynnon Bedr i'r Gymanfa Ysgolion gydag ysgol 'Raber, cangen o Bwlch Newydd. Aelod yn Bwlch Newydd oedd John Davies, Plasparciau, er ei fod yn ymyl Ffynnon Bedr; ond aethai oddiyno rai blynyddoedd cyn hynny gydag amryw eraill, y rhai a gychwynasant Gibeon, oblegid rhyw anghydwelediad yn newisiad gweinidog. Yr oedd John Davies yn ddyn deallgar, yn ddarllenwr mawr ac yn hoff iawn o byncio a dadleu. Disgybl i Mr. Davies, Pant Teg, ydoedd, ac wedi ei faethu yn ei athrawiaeth. Gwyddai y "Llyfr Glas," fel y gelwid "Galwad Ddifrifol" John Roberts—i gyd, ac yr oedd wedi ei fwyta oll. Mae yn debyg fy mod wedi ei daro wrth bregethu; ac wedi myned i'r tŷ a chael swper, dechreuodd ar ei hoff bynciau, a buom wrthi hyd y bore. Yr oeddwn yn digwydd bod yn bur gyfarwydd a'r cwestiynau hynny, oblegid dyna oedd cwestiynau y dydd, ac yr oedd y lleill wedi gadael y siarad bron yn gwbl i ni ein dau. Nid oeddwn wedi deall fod unrhyw gysylltiad rhyngddo a'r Bwlch Newydd, nes iddo ddweyd wrthyf pan yn ymadael bore Gwener, y cai fy ngweled yn Bwlch Newydd bore Sabboth.