Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Richard, oedd yu byw islaw Bwlch Newydd, a'r hwn elai weithiau i'r eglwys. Gofynnodd i mi, "Odi chi, machgen i, yn dod yn weinidog i'r Bwlch yma?" Wel, mae hynny yn debyg yn awr," meddwn innan. "Wel, Duw a'ch helpo, machgen bach, shwd yn y byd y byddwch chi byw gyda nhw ? Mae nhw fel nadredd cochon bach trwy'i giddil i gyd, un tylwyth u'nhw, peidiwch mynd rhyng'un nhw.' Dau deulu mawr cangbenog oedd trwy yr eglwys,—teulu y Crynfryn, a theulu Clomendy, ac yr oedd rhai pobl dda yn perthyn i'r naill a'r llall; ond yr oedd y rhan fwyaf o bobl oreu a theuluoedd goreu yr eglwys heb fod yn perthyn i'r un o honynt. Nis gallaf fyned heibio heb grybwyll enwau rhai o honynt. Dafydd Phillips oedd hen wr cywir a dihoced, ac, er nad oedd ond gweithiwr tlawd, yr oedd ganddo fwy o ddylanwad na neb yn yr eglwys. John Jones, neu John Mason, fel ei gelwid, oedd ddyn deallgar iawn. Yr oedd yn ddarllenwr iawn ac yn gofiadur rhagorol, ac yn un o'r ymadroddwyr mwyaf dymunol. Jonathan, Plas Bach, oedd ddyn rhagorol, o ddawn rhwydd ac yn heddychol ei ysbryd. Dafydd Thomas, Pen y Gaer, oedd un o'r rhai ffyddlonaf i bob moddion, ac er nad oedd, fel y deallais wedi hynny, yn ffafriol ar y dechreu i roddi galwad i mi, eto ni chefais neb yn fwy ffyddlon. Willam James, fy lletywr, oedd ŵr mwynaidd a heddychol, felly hefyd yr oedd Dafydd Rees. Ffynnon Wen, a Dafydd Edwards, Ty Rhos. Dafydd y Crydd oedd ddyn cynnes a bywiog, a ffyddlawn dros ben i weinidog Bwlch Newydd pwy bynnag fyddai. Dywedai fy olynydd, y Parch. Michael D. Jones, am dano, mai