Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a Ben Evans yn Nazareth. Gadewais ef i ddilyn y cyhoeddiadau y dyddiau canlynol, ac aethum ar fy union i Fangor; ac yna i Fon am yr wythnos honno. Mae gennyf gof fy mod yn Amlwch yn pregethu “Na rwgnechwch," a'i bod yn oedfa lled dda. Yr oedd amryw mewn trallod mawr. Rhoddodd Mr. Jones ar y diwedd allan i'w ganu,

"Dysg fi 'dewi gydag Aaron
Dan holl droion dyrys Duw."

Yr oeddem wedi trefnu i fod yng Nghorwen (ar y ffordd adre); ond gan nad oedd cyhoeddiad, aethom ymlaen drwy y Bala, a hyd Ty Mawr, Llanuwchllyn, gan mai yno yr oeddym i fod y Sabboth. Yr oeddem yr wythnos ddilynol yn myned i ryw leoedd yn sir Drefaldwyn, ac i'r Foel i urddiad Mr. Edward Roberts. Aethom y noson honno i Samah, ac yr oedd Mr. Samuel Roberts yno gyda ni, a mawr ganmolai y bregeth "Na rwgnechwch." Nos Wener yr oeddem yn Salem, Machynlleth ; ac yn myned oddiyno i Dal y Bont nos Sadwrn, ar wlaw mawr na bum allan ond anaml ar ei gyffelyb.

Yn y daith honno drwy y Gogledd cyfarfyddais â llawer o hen gyfeillion, ond ychydig gyfle gefais i glywed neb yno yn pregethu. Bum yn ymddiddan ag amryw yn nghylch pregethu, ac am grefydd yn gyffredinol: ond rywfodd nid oedd fy syniad am y Gogledd, ei gweinidogion a'i phobi, wrth ddychwelyd mor uchel ag ydoedd wrth gychwyn, ac ddangosai pethau i mi yn wahanol iawn i'r hyn yr ymddangosent bedair blynedd cyn hynny. Ymddangosai y gweinidogion agos oll fel rhai heb fod yn ysbryd eu gwaith, fel y gweinidogion