Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd fel clochydd ym mhlwyf Llanfihangel Ysceifiog. Yr oedd yn ddyn o gryn lawer o allu, ond yn ofera ei amser. Medrai ganu yn dda, a chyda'r interliwdiau, y rhai y pryd hynny oeddynt yn dra phoblogaidd, nid oedd neb yn fwy blaenllaw. Dilynai y cyfryw gan esgeuluso ei waith ac esgeuluso ei deulu. Enw ei wraig, fy nain, oedd Grace; gwraig dra chrefyddol, yn aelod gyda'r Methodistiaid. Yr oedd yn un o wragedd yr hwyliau, a thorrai allan i orfoleddu. Ond bu farw yn bymtheg ar hugain oed, pan nad oedd y plant oll ond ieuainc, er colled ddirfawr iddynt hwy; ond profodd hynny o fendith i fy nhaid, oblegid ymddengys iddo fod yn ddyn gwahanol byth wedyn. Ysgotiaid ocdd hynafiaid fy nain, a ddaethant drosodd i'r wlad yma. Jacobs oedd yr enw, ac yr oedd traddodiad yn y teulu eu bod yn disgyn o rai o hen frenhinoedd Ysgotland. Nid yw hynny yn fawr o glod iddynt, ond dichon fod rhyw gymaint o'r elfen Ysgotaidd yn aros yn y teulu. Ellen Jacobs oedd enw nain fy nain, ac ni fedrai siarad Cymraeg ond yn amherffaith. Nis gwn pa un ai yn Ysgotland ai yn sir Fôn y ganwyd hi. Yr oedd y teulu yn byw y pryd hwnnw ym Mhlas Cadnant, gerllaw Porth Aethwy, ac yn perchenogi yr etifeddiaeth honno; ond drwy afradlonedd, a pheth anghyfiawnder, fel y tybir, aeth yr etifeddiaeth o feddiant y teulu. William Jones oedd enw tad fy nain, ac yr oedd yn rhyw fath o swyddog yn Beaumaris, a'i dad ef, gŵr Ellen Jacobs, a afradlonodd etifeddiaeth Cadnant. Bernir mai yn adeg y gwrthryfel tua'r flwyddyn 1745 y daeth y tylwyth drosodd i Gymru, yr un pryd ag y daeth y Frazers, a'r Chambers,