Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

20 John Thomas. Yr oedd siop a gweithdy Dafydd Llwyd ar gongoli dwy heol, a byddai llawer iawn yn galw yno. Ac fel y mae yn digwydd bob amser mewn gweithdy o'r fath, yr oedd pob math o gwestiynau yn cael eu trin a'u dadleu. Un o Eglwys Bach, rhwng Conwy a Llanrwst, oedd Dafydd Llwyd. Buasai yn brentis gyd âg Absolom Roberts (Absolom Fardd), am yr hwn yr oedd ganddo lawer o gofion. Dyn cloff, wrth ei fagl, ydoedd, ac un droed iddo yn llawer llai na'r llall. Yr oedd ei wyneb hefyd rywbryd wedi llosgi fel yr oedd creithiau yn amlwg arno. Dyn o deimladau bywiog a hawdd iawn ei gyffroi ydoedd. Treuliasai ei ieuenctid yn wyllt ac annuwiol, gan ddilyn difyrion ac oferedd. Ond aeth o'i wlad ar y tramp, fel y dywedir, yn ol arfer gweithwyr yn y dyddiau hynny yn arbennig, a daeth hyd Garn Dolbenmaen, yn sir Gaernarfon, ac yno, mewn adeg o ddiwygiad nerthol, ymwelodd yr Arglwydd âg ef yn ffordd ei ras, nes ei wneyd yn greadur newydd yng Nghrist Iesu. Ni bu arwyddion amlycach o gyfnewidiad hollol ar ddyn erioed. Derbyniwyd ef yn aelod, ac ymhen amser priododd â merch o Eifionnydd. Sefydlodd yn feistr ei hun yn Dolbenmaen, lle y cadwai amryw weithwyr. Yr oedd wedi ei ddewis gan eglwys y Methodistiaid yn y Garn i fod yn flaenor, ac mor belled ag yr oedd dawn gweddi, a medr i dynnu allan brofiadau crefyddol, yn myned, yr oedd ynddo gymhwysder arbennig i'r swydd. Ryw flwyddyn, neu ychydig yn ychwaneg, cyn i mi fyned ato symudasai i Fangor, gan ddwyn gyd âg ef, heblaw ei deulu, ddau weithiwr oedd gyd âg ef yn Dolbenmaen, sef Ebenezer Thomas ac Ebenezer