a myned i'r gegin nes y llonyddai ei dymer, yr hyn a wnai yn fuan. Yr oedd Ebenezer Morris o dylwyth y beirdd, a'r lleill wedi byw cyhyd yn Eifionnydd, fel yr oedd Dewi Wyn, a Robert ap Gwilym Ddu, ac Ellis Owen Cefn Meusydd, a Sion Chwilog, ac Eben Fardd, a John Owen Gwindy, yn hollol adnabyddus iddynt; ac yr oeddynt wedi son a siarad cymaint am danynt fel yr oeddwn innau yn teimlo fy mod yn hollol gyfarwydd â hwy cyn erioed eu gweled. Byddai yn gyffredin ddau weithiwr arall yno, a'r oll yn lletya yn y ty; ond ychydig a arosai y rhan fwyaf o honynt, dau neu dri, neu o fwyaf, chwe mis; oddigerth un John Davies o Gwyddelwern, yn agos i Gorwen, a fu yno am ysbaid llawer hwy. Anaml y cymerai ef ran yn y dadleuon, ond ymhyfrydai mewn gyrru y cwch i'r dwfr, yn enwedig os gallai gael gennyf fi ddechreu poeni Eben Morris er mwyn cael y difyrrwch o'i weled yn mynd o'i go; ac nid gwaith anhawdd oedd fy nhemtio. Gwelais lawer yno, o bryd i bryd, o wahanol barthau o'r wlad, ac o wahanol enwadau crefyddol, ond yr oedd dysgyblaeth y tŷ mor lym fel nad arhosai neb ofer a blysig yn hir iawn. Deuai ambell un yno yn meddu llawer o wybodaeth, ac o gof rhagorol. Gwelais yno un o Gonwy—nid wyf yn cofio ei enw—Wesleyad oedd, ac yn ddadleuwr neillduol ar y “Pum Pwnc", Yr oedd yno un arall o'r enw William Roberts o Lansantsior, yn Anibynnwr, ac wedi arfer gwrando Mr. Thomas Jones, Moelfre. Byddai pob math o faterion gwladol ac eglwysig, duwinyddol a chymdeithasol, yn cael eu dadleu yno yn eu tro. Yr oedd John William Thomas (Arfonwyson) yn byw fewn ychydig ddrysau, ac
Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/30
Gwedd