Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond gan fod fy modryb yn garedig, ac yn rhoddi fy mwyd i mi yn ddirwgnach am yr ychydig allwn roddi iddi, arhosais yno yn hwy nag y gwnaethwn dan amgylchiadau gwahanol. Myned i'r capel a dilyn cyfarfodydd oedd fy holl hyfrydwch. Yr oedd dirwest y pryd hwnnw yn cychwyn gyda brwdfrydedd, a chyfarfod yn rhyw gapel neu gilydd agos bob nos. I Bedford Street y byddwn yn myned dair gwaith bob Sabboth, oddieithr fy mod yn myned i Pall Mall neu Rose Place yn achlysurol, yr unig ddau gapel arall o eiddo y Methodist iaid oedd yn y dref ar y pryd. Pall Mall oedd y gynulleidfa fwyaf. Cynhelid Seiat Fawr bob nos Lun ar gylch, i'r hon y casglai yr holl eglwysi, a byddwn yn dilyn honno yn gyson. Nid wyf yn meddwl mi golli odid un. Yr adeg honno yr oedd Dr. Edwards o'r Bala yn dychwelyd o Edinburgh, ac yr oedd tynnu mawr ar ei ol. Yr oedd Henry Rees yno hefyd yn niwedd y flwyddyn honno, a dyna yr adeg y penderfynodd symud o'r Amwythig i Liverpool. Yr wyf yn cofio fod rhyw helynt yn Pall Mall mewn rhyw seiat fawr yng nghylch dewis blaenoriaid. Yr oedd John Jones, Castle Street, a Peter Jones (Pedr Fardd) wedi eu dewis, ond yr oedd yr hen flaenoriaid, yn enwedig Samuel Jones, yn eu herbyn, ac yr wyf yn cofio ei bod yn lled derfysglyd. Dywedai John Jones ei fod yn deall fod 37, yr wyf yn meddwl, ac nid 57, wedi fotio drosto, ond gan fod gwrth- wynebiad ei fod yn foddlawn cilio. A dywedai Petr Jones ei fod yntau yn deall fod 35, neu 55, drosto, ond nid oedd am sefyll ar ei hawl os oedd hynny yn peri blinder. Yr wyf bron yn meddwl mai y dynion yn unig oedd yn pleidleisio, ac mai 37 oedd dros y naill, a 35 dros y llall.