Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu bod yn ei erbyn, a hynny a roddai fel rheswm dros ymadael a hwy, ac ymuno â'r Anibynwyr. Urddwyd ef ymhen llai na dwy flynedd ar ol hynny yn y Drewen, sir Aberteifi, lle y bu dros rai blynyddoedd yn barchus iawn, ond fod y drygau y cwynid o'u herwydd o'i gychwyniad yn parhau i lynu wrtho. Aeth yn oruchwyliwr i ryw foneddiges, a rhoddodd y weinidogaeth i fyny. Symudodd i Aberteifi i fyw, ond yr oedd ei gyssylltiad a'r weinidogaeth, os nad â chrefydd hefyd, wedi darfod flynyddau cyn ei farw. Yr oedd ynddo lawer o garedigrwydd, ond ei fod yn llac mewn gair a gweithred. Cyflwynodd Mr. Griffith ef yn garedig i sylw y gweinidogion, fel un oedd yn methu cael rhyddid ymysg ei hen frodyr i gynnyg iachawdwriaeth i bob dyn, a'u bod hwy yn Bethel wedi rhoddi derbyniad cynnes iddo fel aelod a phregethwr. Yna crybwyllodd am danaf finnau, a'm bod innau hefyd wedi fy magu gyda'r un enwad, ond heb fod yn pregethu gyda hwy. Yr wyf yn cofio ei fod yn dweyd yn danllyd am gulni y Methodistiaid. "Dyma nhw," meddai,"chai Robert Jones ddim cynnyg Crist i bawb, a chai John Thomas ddim gweddio dros bawb"; a gwenai pawb gyda hynny, er nad oedd gwirionedd yn y naill sylw na'r llall. Nid wyf yn cofio i unrhyw benderfyniad ffurfiol gael ei basio ynglŷn ag un o honom, nac i neb ddweyd gair ond a ddywedodd Mr. Griffith; ond yr wyf yn cofio yn dda fod agos bawb o'r gweinidogion, ar ol myned allan, yn serchog iawn i mi, ac yn fy ngwahodd i bregethu i'w pulpudau os byddai cyfle. Mr. Ambrose oedd yr unig un y gwneuthum sylw arbennig o hono, na wahoddodd fi. Yr oedd