Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fam ef a Dr. Arthur Jones wedi syrthio allan ers blynyddau am rywbeth, ac elai hi bob Sabboth i Bethlehem at Mr. Samuel; ac os nad oedd a fynnai hynny a chychwyn y drwgdeimlad rhwng Dr. Arthur Jones a gweinidogion y sir, bu yn help i'w gryfhau, oblegid yr oedd Mrs. Ambrose yn barchus iawn gan bawb, a'i thŷ yn llety cysurus i'r rhai a ddelai heibio. Nid oedd Caledfryn yno yn yr oedfa y bore, oblegid yn ddiweddarach ar y dydd y cyrhaeddodd. Gwelais ef yn siarad yn serchog' â Robert Jones, ond ni chymerodd arno fy ngweled i, os gwyddai pwy, ac o ba le, yr oeddwn. Rhoddwyd Robert Jones i ddechreu yr oedfa ddeg, a phregethodd y Parch. James Jones, Capel Helyg, yn gyntaf, oddiar y geiriau,—"Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd a galwedigaeth sanctaidd; nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras." Pregeth athrawiaethol, lled Galfinaidd, yn cael ei dyweyd yn oer ac yn araf; a bu yn lled faith. Ar ei ol, pregethodd y Parch. John Morgan, Abererch y pryd hwnnw, oddiar y geiriau,—"Minnau a arferaf weddi." Ni pharhaodd ond am ryw chwarter awr, ond yn hynny o amser gwnaeth y lle yn wenfflam. Taflodd fywyd i'r holl gynulleidfa. Am ddau, pregethodd y Parch. Evan Davies (Eta Delta), Llanerchymedd, ar "Ddioddefiadau Crist." Nid wyf yn cofio fawr am y bregeth, ond yr wyf yn cofio fod Caledfryn yn eistedd wrth ei gefn yn y pulpud, ac yn edrych yn dra anfoddog; a chlywais ef yn dyweyd, ar ol yr oedfa, wrth rywun, mai "bwtchera y Gwaredwr oedd peth felly." Ar ei ol, pregethodd Caledfryn, yn ddoniol iawn, ar “Ras a Dyledswydd";