Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi pasio yn lled dderbyniol. Yr oeddynt ar y pryd heb weinidog, drwy ymadawiad y Parch. Samuel Edwards i Machynlleth; ac yr oedd rhai o honynt wedi meddwl am danaf yn weinidog, er nad oeddwn ond rhyw chwe mis oed o bregethwr. Aethum i Tyddyn Difyr nos Sadwrn, a derbyniodd yr hen John Jones fi yn garedig, oblegid yr oeddwn y tro o'r blaen wedi pasio yn ffafriol. Y bore Sul hwnnw pregethais oddiar Heb. iv. 2. "Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl megis ag iddynt hwythau,"—y bregeth oreu a feddwn, a honno oedd yn mynd oreu ymhob man. Yr oeddwn wedi ei phregethu yn Ceidio pan yno cyn hynny, ac yr oedd wedi cymeryd yn dda: ond yr oedd heb ei phregethu yn Tydweiliog na Llaniestyn, ond yr oedd gennyf erbyn y diwrnod hwnnw. Ni ddeallais ddim ar yr hen wr fy mod wedi ei anfoddhau, ac er i mi fod yn ei dŷ, ni ddywedodd air wrthyf; a brysiais innau ymaith i fyned i Ceidio erbyn dau. Wedi pregethu yno, aethum i Laniestyn erbyn yr hwyr. Yr oedd y capel yn orlawn, a phregethais bregeth y bore, ac yr oedd yn mynd yn dda. Sylwedd y bregeth oedd :- Fod cynygiad gonest o iachawdwriaeth i'r byd yn yr efengyl, "I ninnau y pregethwyd yr efengyl," —fod y cynygiad yma yn cael ei wrthod, "Ni bu fuddiol"—Mai anghrediniaeth yw yr achos o hynny, "Am nad oedd wedi ei gyd-dymheru a ffydd." Ar ol pregethu y nos yn Llaniestyn, gofynnai William Daniel i mi,—"Ddaru' chi bregethu y bregeth yna yn Tydweiliog y bore?" "Do," meddwn innau. "Wel, bei ddeudodd yr hen John Jones wrtho chi?" " Ddeudodd ddim, meddwn innau. "O rydach chi wedi