Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwarterol yn Bethlehem, mewn cyfarfod pregethu yn Llanymddyfri, ac mewn cymanfa yn Bwlchnewydd.

Nid oeddwn wedi dyfod i weled gwerth addysg y pryd hwnnw fel y daethum ar ol hynny, oblegid i'r Coleg y dylaswn fyned am bedair blynedd. Nid oeddwn eto ond ugain oed, ond yr oeddwn yn unig a digysgod, ac heb neb i ofyn ei gyngor. Ni dderbynnid ychwaith, y pryd hwnnw, ond ychydig i'r Coleg; ac yn anffodus yr oedd tipyn o ragfarn ar y pryd yn erbyn bechgyn o'r Gogledd. Gwrthodasid Samuel Jones yn Aberhonddu, a thrwy anhawsder mawr y cafodd Edward Roberts, Cwmafon, dderbyniad i mewn, yr hwn y gwyddwn ei fod ymhellach ymlaen na mi, ac yn cael ei gymeradwyo gan rai o weinidogion mwyaf dylanwadol y Gogledd. Parodd y pethau hyn i mi ddigalonni i wneyd cais am fyned i'r Coleg. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd llawer iawn yn dweyd wrthyf mai ffolineb mawr fuasai i mi fyned i'r Coleg, ac mai i'r weinidogaeth ar unwaith y dylaswn fyned. Ond camgymeriad mawr ydoedd, a chamgymeriad yr ydwyf drwy fy oes wedi dioddef oddiwrtho; ac nid heb ymroddiad a llafur mawr y gellais am flynyddoedd weithio fy ffordd ymlaen, heb gael fy nhaflu yn hollol i'r cysgod, oblegid yr anfantais o ddiffyg addysg reolaidd yn foreuol.