Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gylch yr un nifer o flynyddoedd cyn cael o Ioan y weledigaeth hynod honno yn Dad. i. 9, &c. Yr ydys yn barnu mai o gylch y flwyddyn 63 y daeth Paul yn garcharor i Rufain.[1]

Joseph o Arimathea.

P. A oes gwybodaeth pwy a bregethodd yr efengyl yma gyntaf?

T, Nid yw haneswyr yn cytuno yn hyn. Rhai a ddywedant fod Paul yma yn pregethu, rhai a ddywedant fod Petr, ac eraill o'r apostolion; eithr y farn fwyaf cyffredin y w mai Joseph o Arimathea, sef y gwr urddasol a gladdodd ein Harglwydd Iesu, oedd yr hwn a seiniodd udgorn mawr yr efengyl yma gyntaf oll. Nid oes achos i ni ymbalfalu llawer am hyn. Digon yw i'r newyddion da o lawenydd mawr mor gynnar gyrhaeddyd ein gwlad ni, yr hon oedd eithaf byd i'r oes honno, er fod gwledydd ehang heb glywed yr efengyl eto.

Ymweliad Julius Cesar.

P. Pa ffordd adrefnodd rhagluniaeth i'r Gair ddyfod yma mor gynted, pan yr oedd y wlad mor bell, ac yn cael ei hamgylchu gan y môr?

T. Mae amcanion drwg dynion yn cael eu troi i ganlyniadau da yn fynych, megis gwerthu Joseph i'r Aifft. Felly o gylch hanner can' mlynedd cyn geni Crist daeth Julius Cesar, ymerawdwr Rhufain. i ran fechan o'r ynys hon. sef Cent, ar lan môr Ffrainc. Er fod rhyfel gwaedlyd rhyngddo a'r hen Gymry, eto ymhen amser daethant yn fwy heddychol, ac agorodd hynny ffordd i amryw o'r Cymry fyned i Rufain

  1. Actau xxviii. 14, &c.