Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar amserau. Yr oedd y Rhufeiniaid yr un pryd yn llywodraethu gwlad Judea. Felly trefnodd hyn ffordd i bobl Israel a'r hen Frutaniaid ddyfod yn gydnabyddus â'u gilydd.

Cymry'r Ysgrythyr,

P. A oes enwau neb o'r Cymry yn yr Ysgrythyr?

T. Pan elai'r Cymry i blith y Rhufeiniaid yr oeddid yn newid eu henwau, am na allai ddieithriaid iawn ddywedyd eu henwau priodol, gan hynny anhawdd yw gwybod yn sicr pa un ai bod enwau rhai o'r wlad hon yn epistolau Paul ai peidio; oddieithr un wraig urddasol o'n gwlad ni. Mae'r dysgedig yn barnu mai Cymraes oedd hi.

P. Beth oedd enw honno? Mi a fernais nad oedd enw neb o'r Cymry yno.

T. Ei henw yn epistol Paul yw Claudia, yn ol Arfer y Rhufeiniaid.[1] Ei hcnw hi yma, meddant, oedd Gwladus Rufydd, ond yn Rhufain Claudia Ruffina. Dywedir mai ei gwr hi oedd Pudens, a enwir yn yr un lle, ac mai gwr mawr iawn ydoedd ef, ac un o'r saint o deulu Cesar.[2] Mae rhai yn dywedyd mai mab Pudens a Chlaudia oedd Linus; os felly hawdd yw barnu i'r Crisnogion enwog hyn wneyd eu rhan ar i'r Cymry gael yr efengyl.

Haneswyr y Cymy.

P. A oes llyfrau yn rhoi hanes am y pethau hyn oll?

T. Oes llawer, yn enwedig y rhai isod,[3] ac y

  1. 2 Tim. iv. 21
  2. Phil iv. 22.
  3. "Drych y Prif Oosoedd. " tu dal. 179. &c. Crosby's 'Hist. o'f the English Baptists," vol. 2 Prefacc. Fox's " Acts and Monmnents." p. 137. &c. Dr. Gill and Mr. Henry on 2 Tim. iv. 21. Godwin's Catalogue. &c. p. 1. &c.