Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae'r awdwyr hynny yn sôn am hanes o hyn a roddir gan Clement, Origen, Theodoret, Tertulian, Eusebius, Jerom, Gildas, Nicephorus, Bede, Usher, Stillinfleet, Fuller, Rapin, Danvers, Calamy, Sir John Floyer, ac amryw eraill.

Ai Bedyddwyr?

P. Ai Bedyddwyr oedd y Crisnogion cyntaf o'r Cymry?

T. Diau mai'r un peth oeddent hwy a'r eglwys Gris'nogol ymhob man yn yr oes honno. Nid fy amcan yw dadlu yngylch Bedydd yn awr; ond gwyddis yn gyffredin fy mod i yn barnu mai Bedyddwyr oedd y Crisnogion oll yramser hynny, ac felly'r Cymry ymhlith y lleill.

Lles ab Cocl, Elwy a Mowddwy, Dyfan.

P. A barhaodd yr efengyl yn ein gwlad ni wedyn?

T. Parhaodd gannoedd o flynyddoedd. O gylch y flwyddyn 180, medd rhai, y bedyddiwyd y brenin Lles ab Coel yn y wlad hon; a dywedir mai efe oedd y brenin cyntaf a fedyddiwyd yn y byd. Geilw'r Rhufeiniaid y gwr hwn Lucius, a'r Cymry a'i galwant, am ei ddaioni, Y Lles a'r Lleufer mawr," sef "Lles a goleuni mawr." Danfonwyd dau wr i Rufain yn yr amser hynny i ymofyn am wyr i gynorthwyo yma i bregethu. Y ddau a ddanfonwyd yno a elwid yma Elwy a Mowddwy, ond gelwid hwy yn Rhufain Elvanus a Medwinus. Danfonwyd dau wr oddi yno i gynnorthwyo yma; gelwid y ddau wr hynny yno Faganus a Damianus, neu ryw beth fel hynny, ond galwa'r Cymry hwy Dyfan a Phagan.

[1]

  1. "Acts and Monumcnts, " p. 96. Crosby, vol. 2 Preface. Godwin p. 36. " Drych," &c., tu dal. 1S8, &'c.