Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES Y BEDYDDWYR

Ysgrifennodd Joshua Thomas "Hanes y Bedyddwyr," ac y mae ynddo ragymadrodd a dwy ran. Yn y rhagymadrodd rhydd restr o'r llyfrau ddarllenodd ar hanes y Cymry; y mae'n amlwg iddo ddarllen pob peth oedd yn ei gyrraedd yn yr oes honno; ac yr oedd ei feddwl yn glir ac yn fanwl ac yn ysgolheigaidd. Yn y rhan gyntaf rhydd fraslun o hanes crefydd yng Nghymru, ac ni rydd i'r Bedyddwyr ond eu rhan gyfiawn o le. Yn yr ail ran rhydd hanes eglwysi unigol y Bedyddwyr; ac fel hanesydd ei enwad, yr ail ran yw'r rhan fwyaf gwerthfawr o'r llyfr.

Fel hanesydd crefydd Cymru y mae a fynnom ni ag ef, ac ni cheir yn y gyfrol hon ond rhan ganol "Hanes y Bedyddwyr,". sef y rhan sy'n ymdrin â. hanes crefydd Cymru'n gyffredinol. Y mae ei arddull yn brydferth ac yn felodaidd. Y mae'n ddisgybl teilwng i Theophilus Evans, yr hwn a edmygai'n fawr. Tan swyn "Drych y Prif Oesoedd" ysgrifenna'n oleu bob amser, a gwyra ambell dro oddiwrth yr hyn sydd hanesyddol wir.