Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

FELLY'N WIR

RWY'N 'nabod hen Gymro hen ffasiwn
Sy'n tynnu mewn tipyn o oed,
Yr hwn sydd a'i lygad a'i galon
Yn llawer ysgafnach na'i droed;
Pan fydd ef yn lolian a siarad,
Cewch weled mor amlwg a'r haul
Fod ganddo ryw winc yn ei lygad,
A hwb yn ei ysgwydd bob 'n ail,
A'i ateb bob amser i bawb sydd yn glir,
Yn fyrr ac i bwrpas, —"Ho-ho, felly'n wir."

A glywsoch chwi, f'ewyrth, y stori
A daenir trwy'r wlad er dydd Sul,
Fod Rhydderch o'r Glyn wedi torri,
A'i ddyled yn ymyl wyth mil?
Fe ddwedir y gwerthir o i fyny i
Ryw adeg cyn dechreu yr ha',
Ond peidiwch a son am y stori
Wrth undyn, os gwelwch yn dda;
Ond f'ewyrth atebai mewn acen mor glir,
Dan wincio, a hwbian,—"Ho-ho, felly'n wir."

A glywsoch chwi hanes y widw,
Ei bod hi fel hyn ac fel hyn,
Yn siarad ar y sly â'r gŵr gweddw
Sy'n byw'r ochr arall i'r bryn?
Fe ddwedir fod honno a hwnnw
Yn edrych modrwyau'n y dre,