Tudalen:Gwaith S.R.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Green; ond pan ydoedd yn sefyll wrth y drws, ac yn curo, gwelodd y steward ochr ei wyneb drwy gil y ffenestr, a chyflym ymguddiodd allan o'r swyddfa, gan roddi awgrym â'i fys ac â'i lygad i'r clercod i ddweyd wrth John Careful ei fod ef oddicartref. Wrth glywed fod y steward oddicartref, gofynnodd John Careful i'r clercod a oedd Mrs. Steward gartref? Atebodd y clerc uchaf ei bod, ond ei bod wedi cael yr influenza mor ddrwg fel nas medrai ddyfod o'i hystafell.

"Yr wyf yn meddwl eich bod yn camgymeryd," ebe'r hen ffarmwr dan ledwenu, "oblegyd mi welais i ei gefn ef, ac mi welais ei hwyneb hithau y foment yma i lawr yn y breakfast—room."

"Yn enw pob dyn," ebe'r clerc, "ond os ydynt hwy yn y breakfast—room, dichon y daw ef i mewn yma bob yn dipyn: ellwch chwi aros nes y daw?"

"Nac allaf; nid oes genyf fi ddim busnes o ddim pwys âg ef yn awr. Yr wyf fi wedi talu fy holl gyfrifon iddo, a'u talu oll yn eu diwrnod. Nid oeddwn i ddim ond galw wrth y drws i roi fy nghompliments iddo with ymadael. Gellwch chwi, os gwelwch yn dda, wneuthur hynny drosof fi; a dywedwch wrtho, os pery business y stewardiaid i fyned wysg ei dîn, ac ar i lawr, yn y wlad yma, fel y mae yn myned yn awr, y gwnaf fi fy ngoreu i gael gwaith neu ffarm iddo yn America. Y mae business y stewardio wedi gweithio ei hun allan yn hollol mewn parthau helaeth o'r Iwerddon, ac mewn rhai conglau o Gymru a Lloegr hefyd; ac os bydd y steward, neu ei hen weddw, neu rai o'i blant, yn dymuno i mi a'm plant chwilio am ffarm dda iddynt yn y gorllewin pell, y gwnawn i unrhyw gymwynas felly iddynt ag fydd yn ein gallu.