Tudalen:Gwaith S.R.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

colli gryn lawer o'r llaeth os digwyddai ef fod yn agos. A'r hyn oedd yn waeth na'r cyfan, dechreuodd Mrs. Highmind gael ei blino yn fawr yn y boreuau gan anhwylderau y cylla: a chafodd anwyd trwm iawn un bore wrth hebrwng y buchod o'r fuches i'w porfa, drwy fod ei hesgidiau braidd yn deneuon, a'r gwlith heb godi, a dichon iddi gael ychydig o gnau yn y gwrych wrth ddyfod adref. Beth hynnag, gorfu iddynt gyflogi nurse o gryn fedr ac o gryn brofiad, ac yr oedd galwad hefyd ar Mr. Highman i fod yn y tŷ y rhan fwyaf o'i amser ymhell cyn, ac ymhell wedi, gorweddiad i mewn Mrs. Highmind; a phan y daeth rhybudd am y diwrnod rhent, deallodd ei fod yn fyr o ddeg punt ar hugain, a galwodd yn union gyda'i hen ewythr Thomas ap Owen i ddweyd ei gŵyn wrtho—ei fod wedi myned i gryn draul yn y chwe mis diweddaf i ddodrefnu y tŷ a phethau eraill; fod y steward wedi adnewyddu a chrynhoi llawer iawn ar y tŷ, a'i fod yntau wedi prynnu soffa, a bwrdd mahogani, a chadeiriau mahogani, i'r parlwr, a drych mawr uwchben y tân; a'i fod hefyd wedi cael gwely mahogani, a dodrefn gwely i gyfateb i'r ystafell uwchben y parlwr; a'u bod wedi cael gwely newydd, a chist—ddillad fawr dda iawn, i'w hystafell ei hunain, a llawer o bethau newyddion eraill. Gofynnodd ei hen ewythr iddo braidd yn sydyn a oedd efe wedi prynnu y pertiant torri gwellt, a'r peiriant chwalu clapiau, ag oedd ef wedi son am brynnu. Atebodd yntau nad oedd—nad oedd yn wir ddim wedi gallu eu prynnu, fod treuliau meddygol a theuluaidd wedi chwyddo i fyny i fwy nag oedd efe wedi allu rag gyfrif; a'i fod o herwydd hynny wedi methu prynnu amryw bethau