Tudalen:Gwaith S.R.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ni chymeraf fi ddim yn chwaneg o'r pethau hynny oddiwrth neb o honoch. Y mae yn gwaedu fy nghalon y funud yma i gofio am y triniaethau creulawn a gwarthus a gafodd y Carefuls pan dan eich stewardiaeth chwi. Yr wyf fi wedi gwneyd i fyny fy meddwl i fyned ar eu hol i America y gwanwyn nesaf. Y mae yn ofid mawr gennyf yn awr na buaswn wedi myned gyda hwy. Cymydogion teg, caredig, a boneddigaidd oeddynt. Os oeddynt yn cwyno weithiau yn erbyn gorthrymder, cawsant ddigon o achos i gwyno; ac heblaw bod yn foddlon i bawb gael eu hawliau gwladol a chrefyddol, yr oeddynt yn bur barod eu cymwynasau a'u helusenau. Yr wyf yn benderfynol i fyned ar eu hol yn ddioed. Y mae lle ardderchog yn America i failïaid ffermydd ymdrechgar a medrus. Gellwch chwilio am baili newydd yn fy lle pan y mynnoch; ac yr wyf yn gobeithio y caiff hwnnw fwy o gysur, a gwell lwc, yn Nghilhaul nag a gefais i."

Dyna ychydig o hanes helyntion diweddar Cilhaul Uchaf. Ni cheisiaf ar hyn o bryd mo'u holrhain ddim pellach. Yr oedd helbul a gofidiau y steward wrth fethu gosod Cilhaul, a rhai ffermydd eraill a ddaethant ar ei law, yn ei boeni ddydd a nos. Yr oedd yr adgofion o'i ymddygiad at rai o'r tenantiaid ffyddlonaf i'w meistr a welwyd erioed yn llosgi ddyfnach ddyfnach yn ei fynwes. Yr oedd ei ddanodion ef a'i deulu i'w gilydd o'u barbareidddra dirmygus tuag at y Carefuls yn ennyn yn bur fynych fwy na llonaid y tŷ o fflamau annedwyddwch a chynnen. Yr oedd croes—esboniadau y steward wrth ei lord yn ddamniol i'w gymeriad fel goruchwyliwr. Glŷn yr anfri wrth ei enw