Tudalen:Gwaith S.R.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar draws asennau, y graig ddu oedd yn ngbanol ei faes gwenith uchaf. Brysiodd y ffarmwr yn bur garedig a boneddigaidd i gael y Squire a'i farch i ddiddosfan; ac wrth ddiolch am ei garedigrwydd, sylwodd y Squire fod mwy na thair blynedd er pan oedd ef wedi bod y ffordd honno o'r blaen; fod yn hoff iawn ganddo weled, wrth ddyfod i fyny y Ffridd, fel yr oedd hen ffarm Cilhaul Uchaf wedi cael ei threfnu a'i gwella yn y blynyddoedd diweddaf, a'i fod yn gobeithio y cai y tenant oes hir i fwynhau tâl am ei lafur. Cydnabyddodd John Careful, mewn llais trist isel, ei fod ef a'i deulu wedi myned i lawer iawn o lafur ac o draul er gwella y ffarm, ond eu bod yn colli y cyfan,—ei fod newydd dderbyn notice i ymadael.

"Nac ydych,'does bosibl," ebe'r Squire yn bur sydyn.

"Ydym yn wir," meddai y tenant.:"A ydyw eich meistr tir yn gwybod eich bod yn ymadael?"

"Yn wir, syr, nid wyf yn gwybod hynny." "Wel, yr wyf fi yn disgwyl cael gweled eich meistr tir yfory, neu drenydd, ac mi siaradaf ag ef yn nghylch y mater."

"Yr wyf yn rhwymedig ac yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr; ond yr wyf yn ofni na byddai hynny o ddim lles i ni nac i neb arall. Y mae yn awr yn rhy ddiweddar. Gwasanaethodd y steward fi a'r notice â'i law ei hun, a hynny mewn dull pur benderfynol. Y mae fy meibion yn teimlo ein bod wedi cael cam creulon, ac y maent yn gofidio yn ddwys o'r herwydd; ac y maent yn hollol benderfynol i fyned i America, ac y maent yn daer iawn ar i'w rhieni fyned gyda hwy."

"Yr anwyl mawr, gwarchod ni, gobeithio nad