teyrnasiad gwlawogydd naw gaeaf ar bob rhan o honi, y buasai yn gwylltio gymaint fel y buasai yn ysgubo tenantiaid yr ardal honno i ffwrdd bob un oddiar ei etifeddiaeth. A gwelais hefyd wrychoedd mawr ceimion cysgodfawr canghenog, heb gael eu torri er dyddiau y Frenhines Ann, yn lledu eu gwraidd a'u brigau ar draws ac o amgylch rhai o'r dolydd mwyaf cysgodol yn yr holl wlad. Peidiwch er dim ag aredig mwy o dir nag a fedrwch wrteithio. Bydd hynny yn sicr o achosi colled. Yr wyf yn meddwl y gwnai gwisg go dda yn awr ac eilwaith o bridd a chalch, neu o bridd a thail, i'ch porfeydd a'ch gweirgloddiau dalu yn well O lawer yn y wlad oer fas wleb anwastad yma nag i chwi lafurio i droi gormod. Gwelais y dydd o'r blaen, wrth fyned ar draws gyda'r cwn, hen domenydd llydain o dywyrch ffosydd ar ganol y gweirgloddiau gwair, yn y mannau goreu arnynt; ac yr oedd argoelion digon eglur fod y tomennau hynny wedi bod yno ar ffordd y bladur er's degau o flynyddoedd. A gwelais hefyd y cloddiau a'r ffosydd oddeutu amryw gaeau gwlybion wedi llawn gau, a'r mân—ffrydiau sly yn ymlithro yn ddistaw drwy'r dydd a thrwy'r nos o'r clawdd i'r cae i andwyo y tir. Yr oeddwn bron gwylltio wrth weled hynny, eisiau fod y cloddiau a'r ffosydd yn cael eu hagor, a'r tywyrch yn cael eu cymysgu â'r hen domenydd gorsychion, a'r cyfan yn ol hynny yn cael eu cymysgu â chalch neu â thail i'w daenu dros y caeau. Gellid dyblu cynnyrch rhosydd a chaeau gwlybion yn y dull hynny. Y mae rhai yn meddwl y gellid gwneyd defnydd da o glai drwy ei olosgi. Er mwyn pob peth ymdrechwch ddyfeisio rhyw foddion er atal egriad, a llifiad ymaith yr ammonia o'ch tomennydd:
Tudalen:Gwaith S.R.pdf/87
Gwedd