Tudalen:Gwaith S.R.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn enwedig wrth godi ac wrth noswylio, a chyda'ch prydiau bwyd. Dysgwch eich gweinidogion i fod yn ddiwyd, ac yn gynnil, ac yn onest. Erfyniwch arnynt er pob peth i fod yn eirwir, ac yn ffyddlon yn eich absenoldeb. Gwnewch eich goreu ar i bawb drwy'r ardal gael digon o waith. Peth ofnadwy ydyw meddwl am fechgyn neu ferched ieuainc mawrion cryfion iachus yn ymsegura mewn syrthni heb ddim i'w wneyd. Y mae llaweroedd drwy seguryd felly wedi cael eu handwyo am byth. Rhoddwch gymaint o ysgol ag a fedrwch i'ch plant. Ni fynnwn i er dim, ac yr wyf yn sicr nas mynnai eich meistr tir er dim, eich rhwymo na'ch gorfodi mewn un modd gyda golwg ar eich Sabbathau. Y mae yr addoli i fod yn hollol yn ol barn eich deall a theimlad eich calon eich hun; ond goddefwch i mi ddweyd na welais i ddim daioni yn dyfod erioed o'r bobl sy'n treulio eu Sabbathau i gysgu a dylyfu gên a rhodianna a hel cleber. Os byddwch chwi am ryw welliantau ag y dylai eich meistr tir eich cynorthwyo i'w gyflawni, ystyriwch eich cynlluniati gyda manylrwydd, a gadewch imi wybod eich cynygion. Yr oedd yn dda iawn gennyf eich gweled yma mor brydlawn bore heddyw. Y mae eich cinio yn awr yn barod; ac y mae gennyf i'w hysbysu i chwi y bydd eich arglwydd tir caredig yn eich dysgnyl oll i giniawa gydag ef yn y Castell Wyl Fair nesaf. Bydd yno y pryd hynny amryw foneddigion profiadol dysgedig i esbonio i chwi ryw egwyddorion newyddion gyda golwg ar ansawdd gwahanol briddoedd, a gwahanol wrteithiau, a gwahanol lysiau, yn nghydag amryw bethau eraill cysylltiedig â llwyddiant amaethyddiaeth. Gadewch i ni fyned oddiyma yn awr i'r ystafell