Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er anrhydeddu y pâr ieuanc. Sicrhai awen ffraeth a pharod ein bardd o'r Tycroes iddo bob croesaw i gynulliadau gloddestgar y bobl gyffredin. Felly hefyd y gwnai i uchelwyliau blynyddol y Cymdeithasau Cyfeillgar yn y dref hon. Ceir yn mysg ei ysgrifau luaws o englynion a phenillion a gyfansoddodd i'w hadrodd ac i'w canu yn y gwahanol gyfarfodydd hyn. Ei wobr, wrth gwrs, ynddynt oll fyddai y gwpanaid feddwol—gwobr hudolus, caredigrwydd o'r fath greulonaf, i fachgen brwdfrydig, calonagored, anmhrofiadol fel efe. Hudai ffug-gyfeillion yn y dref hon ef i gellwair yn rhyfygus â sarph a wenwynasai ei miloedd o fechgyn Cymru—i chwareu uwchben "llithrigfa" arswydlawn chwant at y gwpan feddwol—llithrigfa yr oedd y fath nifer o feibion mwyaf ffafredig yr Awen Gymreig wedi llithro ac yn llithro ar hyd-ddi dros glogwyn meddwdod i lawr i warth a dinystr. I'r Nefoedd, ac nid iddo ei hun nac i'w "gyfeillion," yr oedd ein cyfaill ieuanc nwyfus ac anwyliadwrus i ddiolch am ei warediad prydlawn rhag yr un dynged alaethus, a'i fod yn gorwedd heddyw yn Mynwent y Groeswen, a'i gymeriad moesol, yn gystal a'i lafur gwladgarol, yn destyn ymffrost cyfiawn i'w wlad tra y deallo y Cymry Gymraeg.

PENNOD III.

EI HANES YN EI ARDAL ENEDIGOL, O'I YMUNIAD A'R DIWYGIAD DIRWESTOL HYD EI YMADAWIAD I SIR DREFALDWYN.

CYNWYSIAD:—Addysg mam ddim yn ofer―y Diwygiad Dirwestol yn Nolgellau a'r amgylchoedd—ymuniad Evan Jones ag ef ac ag eglwys Crist—ei lafur fel bardd ac areithydd gyda Dirwest—llwyddiant digyffelyb y Diwygiad Dirwestol; yr achosion o hono, a'r gwahaniaeth rhyngddo a'r un Temlyddol—y Gymdeithas yn erbyn y Myglys—cais am ei wneyd yn bregethwr yn ofer—rhesymau ei wrthwynebwyr—y "diogyn diles"—flangellydd barddonol y Brithdir—dial arno am feiau ei fam—hynodion ei fam—enciliad ei rieni o eglwys y Brithdir—William Richard, y gweddïwr—y siomedigaeth lem—yn rhoddi yr ysgol ddyddiol i fyny—ei ffydd—ei ymadawiad o'i ardal enedigol.

"Y BOREU haua dy had, a phrydnawn nac attal dy law; canys ni wyddost pa un a ffyna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynte da fyddant ill dau yn yr un ffunud;" Preg. xi. 6. "Gwyn eich byd y rhai a hauwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrwch draed yr ych a'r asyn yno; " Esa. xxxii. 20. Mae Gair Duw yn llawn o dystiolaethau o'r un egwyddor a'r rhai hyn, ac y mae croniclau ei Eglwys yn mhob oes yn llawn o brofion o'u gwirionedd. Ond ni welwyd hwynt yn cael eu gwirio mor nodedig nac mor fynych ar unrhyw faes llafur ag ar aelwyd cartref—maes llafur y fam. Gellid llanw cyfrol faith o'r profion mwyaf dyddorol o hyn allan o hanes teuluoedd yr Eglwys Gristionogol. Nid oes dim yn syn yn y ffaith fod llafur hauol y