Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgol ddyddiol a gadwai, yn gwbl gysegredig iddo. Meddwyn dirwestol ydoedd, wedi ei "lenwi â'r Ysbryd, ac nid â gwin." Efe oedd un o ysgrifenyddion cyntaf Cymdeithas y Brithdir, ac un o'i dirprwywyr cyntaf i'w chynrychioli yn Nghyfarfodydd y Cylch. Areithiai yn gyhoeddus yn y cyfarfodydd; daeth ei zel a'i ddoniau areithyddol yn hysbys; gelwid ef i areithio i wahanol leoedd yn y cylch, ac ni chynelid un cyfarfod dirwestol o bwys o fewn y cylch na welid ein gwron ieuanc o'r Tycroes yn bresenol ynddo. Nid oedd nac ieuanc na hen o fewn y cylch yn fwy ei frwdfrydedd nag ef.

Yn ei Ddyddlyfr cawn gofnodau manwl o nifer yr ardystwyr yn y gwahanol gyfarfodydd yn Nghylch Dirwestol Dolgellau. Yn misoedd cyntaf ei gyrfa marchogai Dirwest trwy yr holl gylch hwn gyda rhwysg oll orchfygol. Ar ddiwedd y Gymanfa fythgofiadwy yma, ein Pentecost Ddirwestol gyntaf, Mawrth 27ain, 1837, ym restrodd 140 o'r newydd dan ei baner, yn gwneyd dirwestwyr y cylch yn mhen pedwar mis wedi sefydliad Cymdeithas y dref yma, yn ol cofnodau Evan Jones, dros 3000 o nifer. Daeth gweinidogion, pregethwyr, a diaconiaid ein holl eglwysi Ymneillduol oll allan blaid y symudiad, a dilynwyd eu hesiampl gan bron yr oll o'r aelodau; ac ychwanegwyd at yr eglwysi rai canoedd o aelodau newyddion. Ni chafwyd rhagorach "cnwd " o grefyddwyr i'n hysguboriau eglwysig erioed nag yn y cynhauaf dirwestol cyntaf hwnw. Yr oedd y llwyddiant digyffelyb hwn i'w briodoli i ddwy brif ffaith:—i achos Dirwest y pryd hwnw gael ei ddwyn gerbron y wlad yn ei symlrwydd a'i bwysfawredd cynhenid ei hun, ac iddo felly enill ein holl eglwysi, yn swyddogion ac aelodau, i'w groesawu a'i bleidio gydag unfrydedd a brwdfrydedd teilwng o ymweliad y Brenin mawr ei hun a'n gwlad. Yn nhrefydd a phentrefydd bychain Cymru, sydd wedi eu henill mor llwyr dan awdurdod crefydd Crist, bydd ansawdd moesol "y byd" ynddynt yn ddangoseg led gywir o ansawdd eu heglwysi. Ni bydd "y byd" ddim sychach na'r eglwysi, nac yma fawr wlypach chwaith. Pan y deffrodd Sïon—Sïon oll—y pryd hwnw yn achos galanas arswydlawn Meddwdod yn ein tir, ac y "gwisgodd ei nerth" i'w ddarostwng, gogoneddus yn wir oedd ei buddugoliaethau arno. Felly y bydd byth.

Gwahaniaetha y Diwygiad Temlyddol presenol oddiwrth y Dirwestol hwnw yn y ddau brif achos uchod o'i lwyddiant. Dwg Temlyddiaeth yr egwyddor ddirwestol gerbron y byd wedi ei chysylltu â lluaws eraill cwbl estronol iddi,—megys, Urdd corfforedig, Cymdeithas gyfriniol (secret society), Henaduriaeth gynrychiol Uwch Brif Deml, gwasanaeth a gweddïau darllenedig, ysnodenau, cyfarchiadau ac arwyddeiriau cyfriniol, amodau arianol, &c., &c. Cynyrcha y gwahaniaeth pwysig hwn yn ei ffurf wahaniaeth cyfatebol yn y derbyniad a roddir iddi. Mae yn ffaith ddiau ag y dylai pob dyngarwr cywir lawenychu o'i phlegyd fod swynion Temlyddiaeth Dda wedi llwyddo i enill canoedd o gaethion truain Meddwdod i gofleidio Dirwest, wedi i bob moddion symlach brofi yn gwbl ofer iddynt. Ond ffaith mor ddiau a hono ydyw, fod yr