Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un pethau wedi achosi i luaws mawr o weinidogion a lleygwyr mwyaf goleuedig a dylanwadol eglwysi Cymru a gwledydd eraill—dirwestwyr egwyddorol hefyd—naill ai i wrthod eu cefnogaeth i'r symudiad Temlyddol o gwbl, neu i'w roddi iddo yn dra hwyrfrydig a hanerog. Mae pob ymgais o'r fath i gyfaddasu egwyddorion moesol at chwaeth rodresgar y byd, trwy eu gwisgo âg arwyddlun iau a defodau, mor hanfodol yr un o ran egwyddor a Defodaeth Eglwys Loegr a Phabyddiaeth Eglwys Rhufain—yn gollfarniad mor uniongyrchol ar y ffurf syml, rydd, agored, y cyflwynodd Sylfaenydd Cristionogaeth egwyddorion ei grefydd i dderbyniad y byd—yn wadiad mor eglur o allu gwirionedd i orchfygu llygredigaethau y byd trwy ei nerth dwyfol, cynhenid ei hun, a hoffder o wisgoedd a defodau rhodresgar hefyd yn arwydd mor sicr o feddwl bâs, plentynaidd, a chwaeth benywaidd, fel nas gellir rhyfeddu fod yr Anghydffurfwyr mwyaf egwyddorol yn hwyrfrydig i arwyddo y fath gabldraeth ar ddoethineb Sylfaenydd ein crefydd, ar allu gorchfygol egwyddorion moesol, ac ar eu cymeriad meddyliol eu hunain. Mae fod trefniant mor ddefodgar wedi enill cefnogaeth mor gyffredinol trwy y byd yn brawf nodedig—nid o gymeradwyaeth o'r trefniant Temlyddol ei hun—ond o argyhoeddiad dwfn, cyffredinol, cynyddol, mai ofer fydd pob dyfais, ddwyfol na dynol, i achub y byd heb yn gyntaf ei sobri, na byth i'w sobri heb ei gael i lwyrymwrthod â'r diodydd sydd yn meddwi; ac y mae yn brawf hefyd o'r awydd cryf sydd trwy y byd i gefnogi unrhyw symudiad tuag at lwyr alltudio y diodydd dinystriol hyny allan o hono. Gyda'r dymuniad cywiraf i Demlyddiaeth Dda lwyddo i ddwyn ysbail lawer o waredigion o neuadd y cadarn Meddwdod, dywedwn, Prysured Duw y dydd y dygo Ddirwest eto gerbron ei Eglwys a'r byd, fel y waith gyntaf, yn ei symledd a'i theilyngdod difrifol ei hun—mewn ffurf a adawo eu cyflawn ryddid i ddylanwadau ei Ysbryd Ef ei hun, ac y gall ei Eglwys, a phob galluoedd o'i mewn, roddi iddi yr un gefnog aeth unfrydol, ollorchfygol, ag ar ei hymweliad cyntaf hwnw—mewn gair, yn ffurf syml, agored Efengyl y Deyrnas ei hun. Yn ei ffurf gyntaf, yn galw am gymaint o wasanaeth y pulpud a'r esgynlawr, ac am ddoniau meddyliol ac areithyddol ei phleidwyr o bob oedran, rhoddodd i Eglwys Crist yma yn Nghymru nifer lluosocach o "weinidogion cymhwys y Testament Newydd" nag un Adfywiad crefyddol arall o'i flaen nac ar ei ol. Dyma y gwerthfawrocaf, yn ddiau, o'i holl ffrwythau, ond un nas gellir dysgwyl i unrhyw drefniant o ffurfiau a defodau byth ei gynyrchu.

Cysegrai ein bardd ieuanc holl alluoedd ei awen yn awr bron yn gwbl i wasanaeth y Diwygiad mawr dirwestol. Rhydd yr ychydig engreifftiau a geir yn y gyfrol o'i Weithiau syniad am alluoedd ei awen a thanbeidrwydd ei zel yr adeg hon. Er ei fod yr ieuangaf o holl feibion yr Awen oedd gan Ddirwest y pryd hwn yn ei gwasanaeth yn y Cylch hwn, nid oedd emynau neb y teimlid mwy o'r tân barddonol a dirwestol ynddynt, nac a genid gyda mwy o "hwyl," na'r eiddo ef. A gawn ni wahodd y darllenydd i ddyfod ar adenydd dychymyg yma i Ddolgellau ar yr Uchelwyl gyntaf gof-