Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iadwy, Mawrth y 27ain, 1837? Mae holl ddirwestwyr y Cylch wedi dyfod yn lluoedd banerog i'r dref. Mae dref oll yn oddaith gan y tân dirwestol. Dyma o ddwy i dair mil o feibion a merched brwdfrydig Dirwest yn un gosgorddlu trefnus yn amgylchu y " gareg feirch" ar y " stryd fawr," ac yn cydganu, cyn i un o wroniaid dirwestol Cymru esgyn arni i'w gwefreiddio âg araith drydanol. Maent yn canu y gydgan—

"Cydganwn oll am Ddirwest!
Dirwest!! Dirwest!!!
Cydganwn oll am Ddirwest, &c."

ac

"Cawn ganu Haleluia, cyn bo hir, &c.,
Adseinio pêr Hosanna, cyn bo hir, &c.;
Llais Dirwest wedi darfod
Mewn canmol am y Cymod;
Pa bryd y gwawria ' r diwrnod? Cyn bo hir, &c. "

Mae " hwyl " y dorf yn angerddol, onid yw? Ha!—a glywch chwi yr "Hen Gader" a'r bryniau amgylchynol—hen ddirwestwyr trwyadl, yfwyr dwfr glân y Nefoedd, erioed—a glywch chwi eu hadsain llon o uchel floedd cydgan y dorf

"Dirwest!—Dirwest!!
Cydganwn—oll—am—Ddirwest!!!"

Mae tân y geiriau yn tanio ysbrydoedd y cantorion oll. Rhyw goelcerth o foliant ydyw i Ddirwest a'r Duw a'i rhoes. A welwch chwi y bachgen acw gyferbyn â ni, yn front y cylch mawreddog—y bachgen tal, tenau, llwyd a llym ei wedd acw? Mae ei wisg lwyd, wledig, dlodaidd, yn bradychu tlodi ei gartref het frethyn isel, henafol, ar ei ben; coat ffwstian llwyd, a'i waist i fyny bron at ei geseiliau; a'i flap hen—ffasiwn o'r tu ol yn llawer rhy fyr i gyrhaedd ei amcan, a'i arddyrnau meinion, esgyrnog, yn ymestyn fodfeddi allan o'i llewis; ei drowsers corderoy mor gwta; ac a welwch chwi ofal tyner ei hen fam am y gweddill o'i goesau yn y gaiters uchel o'r un defnydd, a wnant i fyny am gwtogrwydd y trowsers? Chwi welwch brofion rhy eglur i'r dillad acw gael eu gwneyd iddo flynyddau yn ol. Ond a welwch chwi y par llygaid acw sydd dan yr het, sydd, fel ser y ffurfafen, yn goleuo a gloewi ei holl wynebpryd? Fel y mae ei ysbryd byw yn trydanu ei holl gorff! Onid ydych yn teimlo y rhaid fod yn y llanc hynod acw rywbeth nad yw allanolion ei wisg a'i wedd yn gwneyd un math o gyfiawnder âg ef? Oes, y mae un o ysbrydoedd etholedig y Nef yn y bachgen acw. "Evan Tycroes " y geilw y cyffredin ef; ond, fel trwy ryw ymdeimlad prophwydol o ddyfodol dysgleiriach o'i flaen, meiddia alw ei hun yn "Ieuan Gwynedd." Efe ydyw awdwr y geiriau a welwn yn gwefreiddio ysbrydoedd y dorf fawr mor angerddol, ac y mae caniad y dorf o honynt yn ei wefreiddio yntau i'r ystumiau dyeithrol acw gyda'r dôn. Mor hunanfoddhaol a thorsyth ydyw ei olwg! Gallem dybied mai efe, o'r holl wroniaid enwog sydd yma, ydyw gwron