Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

EI HANES O'I FYNEDIAD I SIR DREFALDWYN HYD EI DDERBYNIAD I YSGOL MARTON.

CYNWYSIAD:—Yn cychwyn i Sir Drefaldwyn i gadw ysgol —ei dlodi a'i gyfoeth yn cychwyn Yn cadw ysgol yn Sardis —profi ei grefydd—ei ymroddiad i lafur crefyddol a dirwestol— Yn dechreu pregethu — yn ymadael o Sardis i Benybontfawr yn cadw ysgol yno—y Parch. David Price—ei lafur diorphwys yno—ei chwech penderfyniad ei rieni yn dychwelyd i eglwys y Brithdir—yn ymadael o Benybont i Fangor —yn cadw ysgol yno dan Dr. Arthur Jones — dysgrifiad y Parch. John Thomas o hono yn pregethu yno yn ymadael a Bangor—ei lafur llenyddol a'i brofedigaethau—dyfyniadau o'i Ddyddlyfr am y blynyddau hyn.

PAN yr oedd ei ragolygon yn ei ardal enedigol wedi eu hamgylchu gan dywyllwch, cafodd cyfaill hanes lle iddo fel ysgolfeistr yn ardal Llanwddyn, Sir Drefaldwyn, ac yno yr aeth yn niwedd Tachwedd, 1837. Cychwyna yn yr un wisg ag oedd ganddo yn Nghymanfa Ddirwestol Dolgellau gydag un eithriad—yr oedd yr esgidiau oedd ganddo y pryd hwnw am ei draed yn awr mewn cadach dan ei gesail, a chlogsiau yn cadw eu lle, a sypyn bychan o fân ddillad dan ei gesail arall. Fel hyn, yn dlodaidd ei wedd, yn wael ei iechyd, yn wrthodedig gan yr eglwys a'i magodd, âg ychydig sylltau yn ei boced, a'i ragolygon yn dywyll, y gwelid IEUAN GWYNEDD y boreu hwnw yn "cychwyn allan i'r byd."

Yr oedd ochr arall i'r olygfa. Yr oedd y bachgen gwledig hwnw yn cychwyn allan ar yrfa bywyd mewn meddiant o gyfoeth—o "fortune" y gallasai aerod yr etifeddiaethau bydol eangaf yn rhesymol genfigenu wrtho o'i feddu—cyfoeth o allu ac yni meddyliol, o uchelgais o'r iawn fetel—cyfoeth o eiriau a meddyliau Duw yn ei gof, ac o ofn Duw yn ei galon—cyfoeth o ffydd yn Nuw ac ynddo ei hun, ac o benderfyniad i gysegru ei holl fywyd, boed hwnw fyr neu faith, i wasanaeth Duw a'i gyd-ddynion. At yr hyn oll oedd ganddo o'i fewn, yr oedd ganddo gyfoeth o weddïau fyrdd, taerion, ffyddiog, ei rieni ar ei ran, fel archebion yn nghadw yn Ariandŷ y Nefoedd, ag enw yr Ymddiriedolwr Mawr wrthynt, i'w gweinyddu iddo yn ol ei raid. Wrth y tlotaf ei amgylchiadau a'r tywyllaf ei ragolygon o'n darllenwyr ieuainc ar gychwyniad gyrfa ei fywyd, dywedwn, Os ydyw adnoddau y bachgen tlawd ond uchelfrydig hwn genyt—athrylith ac yni a chrefydd yn dy enaid dy hun, a Duw yn y Nefoedd—i ymddibynu arnynt, gwyn dy fyd! ymwrola, cyfod dy ben, gosod dy nôd a dy lygad yn uchel, dring yn deg a dyfal i fyny tuag ato, nid yw dy lwyddiant, os cei fyw, ond cwestiwn yn unig o amser. Fel y mae byw Duw yn y Nefoedd, a'r adnoddau hyn yn dy enaid dy hun, y mae dy wobr sicr yn dy aros yn fuan neu yn hwyr, fel i'r bachgen hwn.