Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gafodd y Bardd Cwsg; ac un o brif amcanion ei gyhoeddi o newydd y tro hwn ydyw, ei adferyd i'w burdeb cyssefin, heb na chwanegu ato, na thynu oddi wrtho, na chyfnewid arno.

Yn y Nodiadau, amcanwyd yn benaf egluro y geiriau ansathredig ac anghyfiaith sy'n dygwydd yma ac acw yng nghorff y gwaith. Y mae rhai geiriau cyffredin yn oes yr awdwr, weithian wedi tyfu allan o arfer, ac felly wedi myned dros gof gwlad; ac y mae ereill yn eiriau cyffredin mewn rhai lleoedd neillduol, ond ar lwyr goll, ac felly yn annealladwy i'r werin, mewn lleoedd ereill. Cynnygiwyd eglurhâd ar y rhan fwyaf o eiriau o'r fath; ac yn gyffredin gosodwyd cyfystyron Cymreig ar gyfer y llygreiriau Seisonig. Chwanegwyd hefyd gynnifer o nodiadau hanesol ag a dybid yn rheidiol er mwyn deall y gwaith yn hwylusach. Ni chymmerwyd trafferth i geisio dangos ei geinion a'i ragoriaethau; nac ychwaith i ymdrechu olrhain pa faint o hono sydd wreiddiol, a pha faint wedi ei fenthyciaw o ysgrifeniadau ereill; ond gosod y darllenydd cyffredin mewn cyfle i ffurfio drosto ei hun farn am ei deilyngdod, oedd y peth arbenicaf yr amcanwyd ato.

—D. S. EVANS.
Llangian, Lleyn :
Medi 22, 1853.

——————

Ail gymharwyd yr argraffiad newydd hwn yn fanwl â'r argraffiad cyntaf, a diwygiwyd y cyfryw wallau a lithrasent i argraffiad 1853. Ni thybiwyd yn ofynol gwneuthur ond ychydig o gyfnewidiadau ereill.

Llan Mawddwy:
Mawrth 4, 1865.