Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ADGOFIANT O'R AWDWR

Ganwyd ELIS WYNN[1] yn y Lasynys, plasdy o ddeutu milltir a hanner o dref Harlech, yn swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1671. Unig fab ydoedd i Edward Wynn, o deulu Glyn Cywarch, yr hwn a briodasai etifeddes y Lasynys. Y mae yr hen dy, lle y ganed, y maged, ac y bu efe farw ynddo, yn aros hyd heddyw; a dangosir i ddyeithriaid yr ystafell yr hon y dywed traddodiad i Weledigaethau y Bardd Cwsg gael eu hysgrifenu ynddi. Fel llawer o enwogion, yn enwedig enwogion Cymru, ni wyddys ond ychydig o hanes ei fywyd: ei gofiant sydd yn ei waith. Pa ddysgeidiaeth a gafodd, ac ym mha le y derbyniodd efe hi, nid ydys yn gwybod. Y mae yn ddilys ei fod yn wr dysgedig; ond nid oes prawf iddo fod erioed mewn prifysgol; ac os bu, mae yn fwy na thebyg na chymmerodd efe un radd athrofaol ynddi. Dywedir nad oedd llawer o duedd ynddo at y weinidogaeth, ac mai ar gais y Dr. Humphrey Humphreys, Esgob Bangor, y cymmerodd efe ei urddo; ac ymddengys na chymmerodd hyny le nes ei fod mewn gwth o oedran. Urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yr un dydd; a thranoeth cyflwynwyd ef i berigloriaeth Llanfair, ger llaw Harlech. Yr oedd efe hefyd yn beriglor Llandanwg a Llanbedr, yn yr un gymmydogaeth; ac felly cafodd fyw trwy gydol ei oes yn ardal ei enedigaeth, ac ar ei dreftadaeth briodol ei hun. Yn 1702, efe a briododd Lowri

  1. 'Ellis Wynne' yr ysgrifenai ef ei enw, a Wynne yw y dull a arferir gan ei ddisgynyddion i lythyrenu eu cyfenw hyd heddyw: ond nid peth anghyffredin yng Nghymru, mwy nag mewn gwledydd ereill, yw gwneuthur, yn rhwysg amser, beth cyfnewid ar lythyraeth enwau poblogaidd. Y mae'r Cymry yn hoff nodedig o ddull anghymreig i ysgrifenu eu henwau.