Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysblentydd; ond mae eto allan dri neu bedwar o ddrygau geirwon yn y gwynt.' 'Pwy ydynt?' ebr Luciffer. 'Mae,' ebr ef, 'Athrodwr, a Medleiwr, a Checryn Cyfreithgar, wedi tori'r carcharau, a myned yn rhyddion.' 'Nid oes ynte ddim rhyfedd,' ebr y Fall fawr, 'ped fuasai chwaneg o gythryfwl.' Yn hyn, dyma un arall, a fuasai ar ysbi tua'r Deheu, yn mynegu fod y drwg yn dechreu tori allan yno, oni charcherid tri oedd eisys wedi gyru pob peth bendramwnwgl yn y Gorllewin: a'r tri hyny oedd Marchoges, a Dyfeisiwr, a Rhodreswr. 'Wel,' ebr Satan, oedd yn sefyll nesaf ond un at Luciffer, 'er pan demtiais i Adda o'i ardd, ni welais eto o'i hil ef gymmaint o ddrygau allan ar unwaith erioed. Marchoges, Rhodreswr, a Dyfeisiwr; ac o'r tu arall, Athrodwr, Cyrtiwr, a Medleiwr! Dyna gymmysg a bair i fil o ddiawliaid chwydu eu perfeddau allan.' 'Nid oes ryfedd,' ebr Luciffer, 'eu bod mor adgas gan bawb ar y ddaiar, a hwythau yn gallu gwneyd cymmaint blinder i ni yma.'

Gronyn ym mlaen, dyma'r Farchoges fawr yn taro wrth y brenin yng ngwrth ar ei hynt. Ho! modryb â'r clos,' ebr rhyw ddiawl croch, 'nos da'wch.' 'Ie, eich modryb, o ba'r du, atolwg?' ebr hithau, yn ddigllon, eisieu ei galw Madam. 'Brenin gwych ydych chwi, Luciffer, gadw'r fath benbyliaid anfoesol pechod fod cymmaint teyrnas tan un mor anfedrus yn eu llywodraethu: O na wneid fi,' ebr hi, 'yn rhaglaw arni.' Yn hyn, dyma'r Rhodreswr, tan bendwmpian yn y tywyll: Eich gwasanaethwr, Syr,' meddai fo wrth un, tros ei ysgwydd. Ych chwi yn iach lawen?' wrth y llall.—'Oes dim gwasanaeth a'r a allwn i i chwi,' wrth y trydydd, tan gilwenu yn goegfall.[1] Mae eich glendid yn fy hudo i,' ebr ef wrth y Farchoges. Och! och! ymaith â'r fflamgi yma,' ebr hono; a phob un yn gwaeddi, 'Ymaith â'r poenwr newydd yma! uffern ar uffern yw hwn.' 'Rhwymwch ef a hithau dinben drosben,' ebr Luciffer.

Ym mhen ennyd, dyma Gwmbrus y Cyrtiau yn nal rhwng dau ddiawl. O ho! angel tangnoddyf,' ebr Luciffer, 'a ddaethost ti!' 'Cedwch e'n ddiogel tan eich perygl,' ebr ef, wrth y swyddogion. Cyn i ni fyned nemor, dyma'r Dyfeisiwr a'r Athrodwr yn rhwym rhwng deugain o ddiawliaid, ac yn sisial yng nghlustiau eu gilydd. 'O ardderchocaf

  1. Coegfall,' arg. 1703, 1755, 1759, 1767, 1768, 1774; 'coegfalch,' rhai diweddarach.