Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfod adref yn hwyr o'i orchwyl; a hwnw, yn lle ymdrythyllu gyda hi, aeth ar ei luniau i weddio rhag diawl a'i angylion. Amser arall, hi ai at wr afiachus.' 'Hai, teflwch hi,' ebr Luciffer, 'at y goll-ferch ddiles hòno a fu yn caru Eignion ab Gwalchmai[1] o Fon gynt.' 'Aröwch, nid yw hwn ond y bai cyntaf,' ebr y feinir; nid oes eto oddi ar flwyddyn er y diwrnod y darfu am danaf, pan y'm damniwyd i'ch llywodraeth folltegedig chwi, frenin y poenau!' 'Nac oes eto mo'r tair wythnos,' ebr y diawl a'i dygasai hi yno. Am hyny ynte,' ebr hi, pa fodd y mynech fi mor hyddysg a'r damniaid, sy yma er's trichant neu bumcant o flynyddoedd allan yn ysglyfaetha? Os mynech genyf fi well gwasanaeth, gollyngwch fi i'r byd eto, i roi tro neu ddau yn ddigerydd; ac oni ddygaf i chwi ugain puteiniwr am bob blwyddyn y bwyf allan, rhowch arnaf y gosp a fynoch.' Ond fe aeth ferdit[2] yn ei herbyn; a barnwyd iddi fod gan mlynedd hirion tan gerydd, y cofiai hi yn well yr ail tro.

Yn hyn, dyma ddiawl arall yn gwthio mab ger bron. Dyma i chwi,' ebr ef, 'ddarn o negeswr teg, oedd ar grwydr hyd ei hen gymmydogaeth uchod y nos arall, ac a welai leidr yn myned i ddwyn ystalwyn; ac ni fedrai gymmaint a helpu hwnw i ddal yr ebol, heb ymddangos; a'r lleidryn, pan ei gwelodd, a ymgroesodd[3] byth wedi.' Trwy genad y cwrt,' ebr y mab, os cai blentyn y lleidr roddiad oddi uchod i'm gweled i, a allwn i wrth hyny? Ond nid yw hwn ond un,' ebr ef; nid oes oddi ar gan mlynedd er y dydd diesgor[4] y darfu byth am danaf! a pha sawl un o'm ceraint a'm cymmydogion a hudais i yma ar fy ol, yn hyny o amser? Yn Annwn y bwyf, onid oes genyf gystal ewyllys i'r trad a'r goreu o honoch; ond fe geir gwall ar y callaf weithiau.' Hai,' ebr Luciffer, 'bwriwch ef i ysgol y Tylwyth Teg, sy eto tan y wialen am eu castiau diriaid gynt, yn llindagu a bygwth eu cyfneseifiaid, a'u deffroi felly o'u diofalwch; canys gweithiai'r dychryn hwnw chwaneg ond odid arnynt na deugain o bregethau.'

Yn hyn, dyma bedwar ceisbwl, a chyhuddwr, a phymtheg

  1. Gweler 'Dammeg Einion ab Gwalchmai a Rhian y Glasgoed,' yn Ysgriflyfrau lolo, t. 176.
  2. Ferdit=verdict: dedfryd, rheithfarn, barn.
  3. Ymgroesi=ymswyno, ymswyn; gwylio neu ochelyd rhag peth.
  4. 'Diesgor'=nas gellir esgor arno, na chael gwared o hono; na ddaw byth yn ol; anesgorol, anesgor.