Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn ddyledus iddo am danynt, ac nid am danynt hwy yn unig, ond am lawer o'r meddylrithiau hefyd. Nid yw y Breuddwyd' argraffedig ond lled fyr; ond mae lle i gredu nad yw yn ei ddull presennol ond dernyn anghyflawn, neu o leiaf, fod rhyw gymmaint o hono yn eisieu. Efelly, dichon fod seilwaith y Bardd Cwsg i'w gael yn iaith y Cymry, ac mai rhai o ddefnyddiau yr oruch-adail yn unig a fenthyciwyd o diroedd estron.

Cyn y gallom ei gyhuddaw o ddiffyg chwaeth, rhaid i ni ystyried yr oes yr oedd yr awdwr yn byw ynddi; a'r dosbarth o bobl yr oedd efe yn eu hanerch yn benaf. Y mae ansawdd cymdeithas yng Nghymru wedi cyfnewid llawer yn ystod cant a hanner o flynyddoedd; ac nid yw yn canlyn mewn modd yn y byd fod yr hyn sy'n werinaidd y dydd heddyw yn rhwym i fod yn werinaidd yn y dyddiau hyny. Y mae llawer o eiriau, a ystyrid y pryd hwnw yn weddaidd ac yn llednais, wedi myned erbyn y pryd hwn yn anghoeth ac yn serthus; ac ni chlywir byth mo honynt ond yng ngeneu gwehilion y bobl. Y mae tipyn o wahaniaeth yn y peth hwn rhwng Gwynedd a Deheubarth; ac weithiau y mae hyd yn oed dau gwmmwd yn amrywio. Mae y Ddeheubartheg, yn gyffredin, yn fwy llednais na'r Wyndodeg. Dylid cadw y pethau hyn oll mewn golwg wrth feirniadu ar chwaeth y Bardd Cwsg, ac ar weddnod y dafodiaith arferedig ganddo. Ac os cymmer neb y drafferth i'w gymharu â chyfieithad L'Estrange o Cwevedo, yr hwn oedd mewn bri yn ei amser ef, ac yn ddilys ddigon wedi cael ei ddarllen ganddo, ceir gweled ar unwaith fod ein cydwladwr yn haeddu clod dauddyblyg am goethder ei chwaeth, a gweddusrwydd ei syniadau a'i ymadroddion; ac eto, er ei holl serthedd a'i fudr-iaith, yr oedd y gwaith Seisonig mor boblogaidd a derbyniol yn ei ddydd, fel yr ymddangosodd dim llai na deg argraffiad o hono mewn ysbaid o ddeuddeg mlynedd; ond y mae ei werinoldeb yn gyfryw ag y byddai yn waith ofer ei gynnyg ym marchnad lenyddol y dydd heddyw. Y mae gan bob oes, i gryn raddau, ei phriod chwaeth ei hun; ac nid teg fyddai ei barnu yn hyn o beth wrth archwaeth oesoedd ereill.

Diau mai gwella ac nid drygu chwaeth a moes ei gydgenedl oedd yr amcan mewn golwg gan Elis Wynn; ac yr ydym yn gweled iddo lafurio yn helaethach na nemawr o'i gydoeswyr