Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er maint o emprwyr,[1] breninoedd, a llywiawdwyr cyfrwysgall sy tan ei faner ef yn yr anferth Ddinas Ddienydd; ac er glewed ei fyddinoedd aneirif ef tu draw i'r pyrth yn y wlad isaf; eto,' eb yr Angel, 'cânt weled hyny yn ormod o dasg iddynt: er maint, er cryfed, ac er dichlyned yw'r mawr hwn, eto mae yn yr ystrŷd fach acw Un sy fwy nag yntau.'

Nid oeddwn i yn cael gwrando mo'i resymau angylaidd ef yn iawn, gan y pendwmpian yr oeddynt hyd yr ystrŷd lithrig yma bob yn awr; a gwelwn rai ag ysgolion yn dringo'r tŵr; ac wedi myned i'r ffon uchaf, syrthient bendramwnwgl i'r gwaelod. 'I ba le y mae'r ynfydion acw yn ceisio myned?' ebr fi. 'I rywle digon uchel,' eb ef: 'ceisio y maent dori trysordy'r dywysoges. Mi warantaf yno le llawn,' ebr fi. Oes,' eb ef, 'bob peth a berthyn i'r ystrŷd yma, i'w rhanu rhwng y trigolion: pob math o arfau rhyfel i oresgyn ac ymledu; pob math o arfau bonedd, banerau, scwtsiwn,[2] llyfrau achau, gwersi'r hynafiaid, cywyddau; pob math o wisgoedd gwychion, ystorïau gorchestol, drychau ffeilsion; pob lliwiau a dyfroedd i decäu'r wynebpryd; pob uchel swyddau a theitlau; ac ar fyr iti, mae yno bob peth a bair i ddyn dybio yn well o hono ei hun, ac yn waeth o ereill, nag y dylai. Prif swyddogion y trysordy hwn yw meistriaid y seremonïau, herwyr,[3] achwyr, beirdd, areithwyr, gwenieithwyr, dawnswyr, teilwriaid, pelwyr,[4] gwnïadyddesau, a'r cyffelyb.'

O'r ystrŷd fawr hon, ni aethom i'r nesaf, lle mae'r Dywysoges Elw yn rheoli: ystrŷd lawn a chyfoethog aruthr oedd hon; eto nid hanner mor wych a glanwaith ag Ystrŷd Balchder, na'i phobl hanner mor ehud wyneb-uchel; canys dynion llechwrus iselgraff oedd yma gan mwyaf. Yr oedd yn yr ystrŷd hon fyrdd o Hispaenwyr, Holandwyr, Venetiaid,[5] ac Iddewon yma a thraw; a llawer iawn hen bobl oedranus.

  1. Emperors: ymherawdwyr, ymherodron.
  2. Scwtsiwn'=escutcheon: y maes yr arddangosir arfau bonedd arno; arflen, maes arfau, pais arfau.
  3. Yn briodol, ffoaduriaid, gwilliaid; ond yma golygir arwyr, gwroniaid, campwyr, neu ryswyr; o blegid nis geill rhai ar herw, na rhai yn anrheithio, nac ychwaith rai yn rhoddi her, gytuno ag ystyr y lle hwn; ac ni buasai naturiol cyflëu y cyfryw yn Ystrŷd Balchder. 'A'r rhai hyn,' ebr ef, 'y bu'r herwyr yn ymladd am y feinwen.'— Gweledigaeth Angeu.
    Hiraeth dan fron ei herwr.—D. ab Gwilym.
  4. Chwareuwyr pel
  5. Trigolion Gwenethia neu Venis, yn yr Ital.