Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fawr hi y lluniwyd y gwisgoedd duon yna. Nid oes un o'r rhai hyn yn wylo o ddifrif: mae'r weddw,[1] cyn myned corff hwn o'i thy, wedi gollwng gwr arall eisys at ei chalon: pe cai hi ymadael â'r gost sy wrth y corff, ni waeth ganddi o frwynen petai ei enaid ef yng ngwaelod uffern, na'i geraint ef mwy na hithau; o blegid, pan oedd galetaf arno, yn lle ei gynghori yn ofalus, a gweddïo yn daer-ddwys am drugaredd iddo, son yr oeddid am ei bethau,[2] ac am ei lythyr cymmyn,[3] neu am ei achau; neu laned, gryfed gwr ydoedd ef, a'r cyffelyb; ac felly yr awran, nid yw'r wylo yma ond rhai o ran defod ac arfer, ereill o gwmni, ereill am eu cyflog.'

Prin yr aethai y rhai hyn heibio, dyma dyrfa arall yn dyfod i'r golwg: rhyw arglwydd gwych aruthr, a'i arglwyddes wrth ei glun, yn myned yn araf mewn ystâd,[4] a llawer o wŷr cyfrifol yn ei gapio, a myrdd hefyd ar eu traed yn dangos iddo bob ufudd-dod a pharch; ac wrth y ffafrau[5] dëellais mai priodas ydoedd. 'Dyma arglwydd ardderchog,' ebr fi, 'sy'n haeddu cymmaint parch gan y rhai hyn oll.' Ped ystyrit y cwbl, ti a ddywedit rywbeth arall,' eb ef: 'un o Ystrŷd Pleser yw yr arglwydd yma, a merch yw hithau o Ystrŷd Balchder; a'r hen ddyn acw sy'n siarad ag ef, un ydyw o Ystrŷd yr Elw, sy ganddo arian ar holl dir yr arglwydd agos, a heddyw yn dyfod i orphen taledigaeth. Ni aethom i glywed yr ymddyddan.

'Yn wir, Syr, meddai'r codog, gyfoethog; cybydd, cotyn. ni fynaswn i er a feddaf fod arnoch eisieu dim a'r a allwn i, at ymddangos heddyw yn debyg i chwi eich hunan, ac yn sicr gan ddarfod i chwi daro wrth arglwyddes mor hawddgar odidog a hon' (a'r cotyn[6] hen-graff yn gwybod o'r goreu beth oedd hi). Myn, myn, myn—'eb yr arglwydd, 'nesaf pleser at edrych ar degwch hon, oedd wrando eich mwynion resymau chwi; gwell genyf dalu i chwi log, na chael arian yn rhad gan neb arall.' 'Yn ddiau, fy arglwydd,' ebr un o'r pen-cymdeithion, a elwid Gwenieithiwr 'nid yw fy ewythr yn dangos dim ond a haeddech chwi o

  1. 'Widw,' arg. 1703
  2. Meddiannau, moddion, da
  3. Ewyllys, ewyllys diweddaf
  4. 'Mewn ystầd '=mewn rhwysg; mewn rhwysg a rhodres; yn rhwysgfawr
  5. 'Ffafrau'=arwyddion, neu gofroddion priodas.
  6. 'Cotyn' (o cod)=codog: lluos. Cotiaid