Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan bawb ynddi, hyd yn oed y digred. Ac i deml yr anghred yr aethom gyntaf: gwelwn yno rai yn addoli llun dyn, ereill yr haul, ereill y lleuad, felly aneirif o'r fath dduwiau ereill, hyd at y winwyn a'r garlleg; a duwies fawr a elwid Twyll yn cael addoliant cyffredinol; er hyny, gwelid beth ol y Grefydd Gristianogol ym mysg y rhan fwyaf o'r rhai hyn.

Oddi yno ni aethom i gynnulleidfa o rai mudion,[1] lle nid oedd ond ocheneidio, a chrynu, a churo'r ddwyfron. Dyma,' eb yr Angel, rith o edifeirwch a gostyngeiddrwydd mawr, ond nid oes yma ond 'piniwn,[2] a chyndynrwydd, a balchder, a thywyllwch dudew; er maint y soniant am eu goleuni oddi mewn, nid oes ganddynt gymmaint a spectols[3] natur, peth sy gan y digred a welaist gynneu.'

Oddi wrth y cŵn mudion dygwyddodd i ni droi i eglwys fawr benegored, â myrdd o esgidiau yn y porth: wrth у rhai hyn dëellais mai teml y Tyrciaid[4] ydoedd. Nid oedd gan y rhai hyn ond spectol dywyll a chymmysglyd iawn a elwid Alcoran;[5] eto trwy hon yr oeddynt fyth yn ysbïo ym mhen yr eglwys am eu prophwyd a addawsai ar ei air celwydd ddychwel i ymweled â hwynt er's talm, ac eto heb gywiro.

Oddi yno yr aethom i Eglwys yr Iddewon; yr oedd y rhai hyn lwythau yn methu cael y ffordd i ddianc o'r Ddinas Ddienydd, er bod spectol lwyd-oleu ganddynt, am fod rhyw huchen[6] wrth ysbïo yn dyfod tros eu llygaid, eisieu eu hiro â'r gwerthfawr enaint, ffydd.

Yn nesaf yr acthom at y Papistiaid.[7] 'Dyma,' eb yr Angel, 'yr eglwys sy'n twyllo'r cenedloedd! Rhagrith a adeiladodd yr eglwys yma ar ei chost, ei hun. Canys mae'r Papistiaid yn cynnwys,[8] ië, yn gorchymmyn, na chadwer llw â heretic,[9] er darfod ei gymmeryd ar y cymmun. O'r ganghell, ni aethom

  1. Crynwyr, y Cyfeillion.
  2. Opinion: tyb, daliad, ymddaliad, mympwy.
  3. Spectacles: yspeithell, gwydr golwg.
  4. Y Mahometiaid, a'r rhan fwyaf o'r Dwyreiniaid, a addolant yn droednoeth, gan adael eu hesgidiau oddi allan wrth ddrws y deml.
  5. 'Alcoran,' neu y Coran, yw Beibl y Mahometiaid. Cyfansoddwyd ef gan eu prophwyd yn y seithfed ganrif.
  6. Pilen, croenen, gorchudd teneu. Gwel 2 Cor. iii. 14, 15.
  7. Pabyddion, Eglwys Rhufain.
  8. Caniatäu, goddef
  9. Heretic' (Gr. αιρετικός) = camgredwr, geugredwr, geulithiwr, geuffyddiwr, cyfeiliornwr. 'Est vox antiquis usitata.'—Dr. Davies.