Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei ffoli, rhai yn ei watwar, rhai yn ei fygwth; a'i geraint yn ei ddal ac yn ei grëu[1] i beidio â'i daflu ei hun i golli yr holl fyd ar unwaith. Nid wyf fi,' ebr yntau, 'yn colli ond rhan fechan o hono; a phe collwn i'r cwbl, ertolwg, pa'r golled yw? O blegid beth sy'n y byd mor ddymunol, oni ddymunai ddyn dwyll, a thrais, a thrueni, a drygioni, a phendro, a gwallgof? Bodlonrwydd a llonyddwch,' ebr ef, 'yw hapusrwydd dyn; ond nid oes yn eich dinas chwi ddim o'r fath bethau i'w cael. O blegid pwy sy yma yn fodlon i'w ystâd? Uwch, uwch y cais pawb Ystrŷd Balchder; 'Moes, moes ychwaneg,' medd pawb yn Ystrŷd yr Elw; 'Melus, moes eto,' yw llais pawb yn Ystrŷd Pleser. Ac am lonyddwch, pa le mae? a phwy sy'n ei gael? Os gwr mawr, dyna weniaith a chenfigen ar ei ladd; os tlawd; hwdiwch bawb i'w sathru a'i ddiystyru. Os myni godi, dyro dy fryd ar fyned yn ddyfeisiwr; os myni barch, bydd ffrostiwr neu rodreswr; os byddi duwiol, yn cyrchu i'r eglwys a'r allor, gelwir di yn rhagrithiwr; os peidi, dyna di yn anghrist neu yn heretic; os llawen fyddi, gelwir di yn wawdiwr; os dystaw, gelwir di yn gostog[2] gwenwynllyd; os dilyni onestrwydd, nid wyt ti ond ffwl diddeunydd; os trwsiadus, balch; os nad e, mochyn; os llyfn dy leferydd, dyna di yn ffals, neu ddyhiryn anhawdd dy ddirnad; os garw, cythraul trahäus anghydfod. Dyma'r Byd yr ych chwi yn ei fawrhau, ebr ef, ac ertolwg, cymmerwch i chwi fy rhan i o hono:' ac ar y gair, fe a ymysgydwodd oddi wrthynt oll, ac ymaith ag e'n ddihafarch[3] at y porth cyfyng; ac heb waethaf i'r cwbl, tan ymwthio, fe aeth drwodd, a ninnau o'i ledol; a llawer o wyr duon ar y caerau o ddeutu'r porth yn gwadd y dyn ac yn ei ganmol. Pwy,' ebr fi, 'yw'r duon fry?' 'Gwylwyr y Brenin IMMANUEL,' ebr yntau, 'sy'n enw eu Meistr yn gwadd ac yn helpu rhai trwy'r porth yma.'

Erbyn hyn yr oeddym ni wrth y porth: isel a chyfyng iawn oedd hwn, a gwael wrth y pyrth isaf; o ddeutu'r drws yr oedd y Deg Gorchymmyn; y llech gyntaf, o'r tu deheu; ac uwch ei phen, Ceri Dduw â'th holl galon,' &c.; ac uwch ben yr ail lech, o'r tu arall, 'Câr dy gymmydog fel ti dy hun;' ac uwch ben y cwbl, 'Na cherwch y byd, na'r pethau sy'n y byd,' &c.

  1. Crefu, ymbil, deisyf
  2. Corgi, un taiog
  3. Yn egnïol, yn galonog, yn wrol