Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn hyn, dyma yrr o Gwaccriaid,[1] a fynai fyned i mewn â'u hetiau ar eu penau; eithr trowyd hwy ymaith am fod cynddrwg eu moes. Wedi hyny, dechreuodd rhai o dylwyth yr ysgubor[2], a fuasai yno er ys ennyd, lefaru. "Nid oes genym ni," meddent, 'ond yr un Ystatut â chwithau; am hyny dangoswch i ni ein braint.' 'Aröwch,' ebr y porthor dysgleirwyn, gan graffu ar eu talcenau hwy, 'mi a ddangosaf i chwi rywbeth.' 'Dacw,' ebr ef, 'a welwch chwi ol y rhwyg a wnaethoch chwi yn yr Eglwys i fyned allan o honi heb nac achos nac ystyr? ac yr awran, a fynech chwi le yma? Ewch yn ol i'r porth cyfyng, ac ymolchwch yno yn ddwys yn Ffynnon Edifeirwch, i edrych a gyfogwch chwi beth gwaed breninol a lyncasoch gynt;[3] a dygwch beth o'r dwfr hwnw i dymmeru'r clai at ail uno y rhwyg acw; ac yna croeso wrthych.'

Ond cyn i ni fyned rwd[4] ym mlaen tua'r Gorllewin, mi glywn si oddi fyny ym mysg y penaethiaid, a phawb o fawr i fach yn hel ei arfau, ac yn ymharneisio,[5] megys at ryfel: a chyn i mi gael ennyd i ysbio am le i ffoi, dyma'r awyr oll wedi duo, a'r ddinas wedi tywyllu yn waeth nag ar eclips,[6] a'r taranau yn rhuo, a'r mellt yn gwau yn dryfrith, a chafodydd didor o saethau marwol yn cyfeirio o'r pyrth isaf at yr Eglwys Gatholig; ac oni bai fod yn llaw pawb darian i dderbyn y picellau tanllyd, a bod y graig sylfaen yn rhy gadarn i ddim fanu arni, gwnelsid ni oll yn un goelcerth. Ond och! nid oedd hyn ond prolog,[7] neu damaid prawf, wrth oedd i ganlyn: o blegid ar fyr, dyma'r tywyllwch yn myned yn saith dduach, a Belial ei hun yn y cwmwl tewaf, a'i ben-milwyr daiarol ac uffernol o'i ddeutu, i dderbyn ac i wneyd ei wyllys ef, bawb

o'r neilldu. Fe roesai ar y Pab,[8] a'i fab arall o Ffrainc,[9] ddinystrio Eglwys Loegr a'i brenines; ar y Twrc a'r Mos-

  1. Crynwyr, y Cyfeillion.
  2. Yr Ymneillduwyr Gwel t. 38.
  3. Cyfeiriad at ddienyddiad y Brenin Carl 1.
  4. 'Rwd'=Seis. rood: chwarter erw, pedwaran o dir. 'Rwyd' yw darlleniad agos yr holl argraffiadau, ond y cyntaf (1703), un y Mwythig, 1774, ac un Caerfyrddin, 1767.
  5. Ymwisgo, gwisgo ei arfau, ymarfogi.
  6. Diffyg (ar yr haul neu'r lleuad).
  7. Prologue: rhagaraeth, rhaglith, rhagymadrodd.
  8. Clement XI. a eisteddai y pryd hwn yng nghadair Pedr.
  9. Lewis XIV.