Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

coviaid[1] daro y rhanau ereill o'r Eglwys, a lladd y bobl, yn enwedig y frenines, a'r tywysogion ereill, a llosgi'r Beibl yn anad dim. Cyntaf gwaith a wnaeth y frenines, a'r seintiau ereill, oedd troi ar eu gliniau, ac achwyn eu cam wrth Frenin y Breninoedd, yn y geiriau yma: "Mae estyniad ei adenydd ef yn llonaid lled dy dir di, O IMMANUEL!" Esa. viii. 8. Yn ebrwydd, dyma lais yn ateb, Gwrthwynebwch ddiawl, ac fe ffy oddi wrthych. Ac yna dechreuodd y maes[2] galluocaf a chynddeiriocaf fu erioed ar y ddaiar. Pan ddechreuwyd gwyntio cleddyf yr Ysbryd, dechreuodd Belial a'i luoedd uffernol wrthgilio; yn y man dechreuodd y Pab lwfrhau, a Brenin Ffrainc yn dal allan; ond yr oedd yntau ym mron digaloni wrth weled y frenines a'i deiliaid mor gytunol; ac wedi colli ei longau a'i wŷr,[3] o'r naill du, a llawer o'i ddeiliaid yn gwrthryfela, o'r tu arall; a'r Twrc[4] yntau yn dechreu llaryeiddio. Yn hyn, och! mi welwn fy anwyl gydymaith yn saethu oddi wrthyf fi i'r entrych, at fyrdd o dywysogion gwynion ereill; a dyna'r pryd y dechreuodd y Pab a'r swyddogion daiarol ereill lechu a llewygu, a'r penaethiaid uffernol syrthio o fesur y myrddiwn, a phob un cymmaint ei swn yn cwympo (i'm tyb i) a phe syrthiasai fynydd anferth i eigion y môr; a rhwng y swn hwnw, a chyffro coll fy nghyfaill, minnau a ddeffroais o'm cwsg; a dychwelais o'n llwyr anfodd i'm tywarchen drymluog; a gwyched, hyfryded oedd gael bod yn ysbryd rhydd, ac yn sicr yn y fath gwmni, er maint y perygl. Ond erbyn hyn, nid oedd genyf neb i'm cysuro, ond yr Awen, a hòno yn lledffrom; prin y ces ganddi frefu i mi yr hyn o rigymau sy'n canlyn.


.

  1. Y Rhwssiaid, hen drigolion Rhwssia.
  2. Brwydr, cad, rhyfel, ymladdfa, gwaith
  3. Wrth ymladd yn erbyn ymherodraeth yr Almaen, Holand, a Lloegr Yr oedd Lewis yn bleidiwr wresog i Iago II; ac ymdrechodd lawer i'w adsefydlu ef ar orsedd Prydain.
  4. Y Sultan Mwstaffa II, mab Mohammed IV, a ddechreuodd deyrnasu yn 1695, ac a ddiorseddwyd yn 1703.