Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Peidiwch, fy mrawd,' ebr Merddyn,[1] oedd yn agos; 'na fyddwch ryboeth; diolchwch iddo yn hytrach am gadw coffadwriaeth parchus o'ch enw ar y ddaiar.' 'Yn wir, parch mawr,' eb yntau, 'oddi wrth y fath benbwl a hwn. A fedrwch chwi, Syre, ganu ar y pedwar mesur ar hugain? a fedrwch chwi ddwyn achau Gog a Magog, ac achau Brutus ab Silvius hyd gan—mlwydd cyn difa Caer Troia? A fedrwch chwi frutio pa bryd, a pheth a fydd diwedd y rhyfeloedd rhwng y llew a'r eryr, a rhwng y ddraig a'r carw coch? ha!' 'Hai! gadewch i minnau ofyn iddo gwestiwn,' ebr un arall, oedd wrth efyddan[2] fawr yn berwi, soc, soc, dy gloc, dy gloc.[3] Tyred yn nes ebr ef, beth yw meddwl hyn?'—

Mi fyddaf hyd ddydd—brawd,
Ar wyneb daiar—brawd,
Ac ni wyddys beth yw 'nghnawd,
Ai cig ai pysgawd,'

Dymunaf eich henw, Syr,' ebr fi, 'fel y'ch atebwyf yn gymhwysach.' 'Myfi,' ebr ef, 'yw Taliesin Ben Beirdd y Gorllewin, a dyna beth o'm difrogwawd[4] i. 'Nis gwn i ebr finnau, beth a allai eich meddwl fod, onid allai'r fad felen[5] a

  1. Sonir yn gyffredin am ddau o'r enw Merddyn neu Myrddin; sef, Myrddin Emrys a Myrddyn ab Morfryn, yr hwn a elwir hefyd Myrddin Wyllt; ond y mae yn gryn debygol mai yr un oeddynt, er yr honir i'r naill flodeuo yng nghylch can mlynedd o flaen y llall. Cyfrifir yn gyffredin fod Myrddin Emrys yn byw tua chanol y bummed, a Myrddin Wyllt o ddeutu canol y chweched ganrif o gyfrif Cred. Ystyrir Myrddin yn ddewin a phrophwyd nodedig yn ei ddydd; ac y mae llawer o chwedlau am dano, ac o brophwydoliaethau yn cael eu tadogi arno, yng Nghymru hyd heddyw. Gweler y Brutiau Cymreig (Myvyrian Archaiology, ii.), a Drych o Prif Oesoedd (arg. Caerfyrddin, 1863, t. 102, 103.) Cynnwysa yr unrhyw Frutiau lawer o chwedlau dyddorol ond disail am Brutus ab Silvius ab Ascanius ab Eneas Ysgwyddwyn, a'i helyntion a'i anturiaethau yn yr Ital, yng ngwlad Groeg, yug Ngal, ac yn Ynys Prydain.
  2. Neu, efydden=padell efydd; pair.
  3. Dychymmygeiriau, oddi wrth swn pair yn berwi. Gwel t. 53, n. 2.
  4. Neu, difregawd=gofyniad neu holiad dychymmygol; ymadrodd â dirgelwch ynddo; prydyddiaeth ddammegol; dychymmyg, gorchan.
  5. Y fad neu fall felen y gelwir yr haint y bu Maelgwn Gwynedd, brenin y Brython yn y chweched ganrif, farw o honi.
    "Tair haint echrys Ynys Prydain —Ail, Haint y fad felen o Ros; ac achos celaneddau y lladdedigion y bu hono; ac od elai neb o fewn eu gwynt, cwympo yn farw yn ddioed a wnelai.'—Trioedd (Myv.Arch. ii. 59).
    'Ac mewn eglwys yn ymyl Dyganwy y bu [Maelgwn Gwynedd] farw, pan weles y fad felen drwy dwll dor yr eglwys.'—Brut Gr. ab Arthur.